Gwneud, cofrestru neu roi terfyn ar atwrneiaeth arhosol
Gwneud atwrneiaeth arhosol
Gallwch wneud atwrneiaeth arhosol (LPA) ar-lein neu gan ddefnyddio ffurflenni papur.
Y naill ffordd neu’r llall, bydd rhaid i chi gael pobl eraill i lofnodi’r ffurflenni, gan gynnwys yr atwrneiod a’r tystion.
Gallwch gael rhywun arall i ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein neu i lenwi’r ffurflenni papur ar eich rhan, er enghraifft, aelod o’r teulu, ffrind neu gyfreithiwr.
Rhaid i chi gofrestru eich LPA neu ni fydd eich atwrnai’n gallu gwneud penderfyniadau ar eich rhan.
Mae’n cymryd hyd at 16 wythnos i wneud LPA os nad oes camgymeriadau yn y cais. Fel arfer bydd yn gynt na hyn os byddwch yn gwneud a thalu am y cais ar-lein.
Gwneud LPA ar-lein
Bydd rhaid i chi greu cyfrif neu fewngofnodi i gyfrif sy’n bodoli’n barod i allu:
- gwneud LPA
- parhau gyda LPA yr ydych wedi dechrau’i gwneud yn barod
Gallwch wedyn:
- gael help ac arweiniad ym mhob cam
- cadw eich ffurflenni a’u cwblhau yn nes ymlaen
- adolygu eich atebion a chywiro unrhyw gamgymeriadau
Rhaid i chi argraffu’r ffurflenni a’u llofnodi pan rydych chi wedi gorffen.
Os ydych wedi gwneud a chofrestru LPA yn barod, mae yna wasanaeth gwahanol ar gyfer defnyddio LPA.
Defnyddio’r ffurflenni papur
Lawrlwythwch y ffurflenni a’u hargraffu.
Llofnodi’r ffurflenni
Rhaid i chi lofnodi’r ffurflenni cyn eu hanfon. Hefyd rhaid i’r canlynol eu llofnodi:
- yr atwrneiod
- tystion
- ‘darparwr tystysgrif’, sy’n cadarnhau eich bod yn gwneud yr LPA o ddewis a’ch bod yn deall beth rydych yn ei wneud
Rhaid i bawb lofnodi yr un ddogfen wreiddiol. Ni ellir llofnodi copïau neu ddefnyddio llofnodion digidol.
Pwy sy’n gallu bod yn dyst neu’n ddarparwr tystysgrif
Rhaid i dystion a darparwyr tystysgrifau fod yn 18 oed neu’n hŷn.
Caiff atwrneiod fod yn dystion i’w gilydd yn llofnodi, ond ni allant:
- fod yn dystion i chi’n llofnodi
- llofnodi fel y darparwr tystysgrif
Ni allwch fod yn dyst os mai chi yw’r person sy’n penodi atwrnai.
Cael help
Gofynnwch i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus am yr help y gallwch ei gael os:
- nad oes gennych gyfrifiadur neu argraffydd
- rydych eisiau defnyddio’r gwasanaeth ar-lein ond angen rhywfaint o help
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
[email protected]
Ffôn (yn Saesneg yn unig): 0300 456 0300
Ffôn testun (yn Saesneg yn unig): 0115 934 2778
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth am ffioedd galw
Os hoffech siarad Cymraeg, anfonwch ebost i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus