Deall eich bil treth Hunanasesiad
Trosolwg
Pan fyddwch yn cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad, byddwch yn cael y canlynol:
-
datganiad Hunanasesiad (a elwir hefyd yn ‘eich bil’)
-
cyfrifiad treth (a elwir hefyd yn ‘SA302’ neu’n ‘cyfrifiant treth’)
Mae’ch datganiad Hunanasesiad yn dangos crynodeb o’r hyn sydd arnoch ac unrhyw daliadau yr ydych wedi’u gwneud.
Mae’ch cyfrifiad treth yn dangos crynodeb o’r dreth sydd arnoch ar gyfer y flwyddyn dreth.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Talu’ch bil treth Hunanasesiad
Mae angen i chi dalu’ch bil treth Hunanasesiad erbyn canol nos ar 31 Ionawr (yn dilyn y flwyddyn dreth yr ydych yn talu ar ei chyfer) er mwyn osgoi cael cosb.
Dysgwch am yr hyn i’w wneud os na allwch dalu’ch bil.