Deall eich bil treth Hunanasesiad

Sgipio cynnwys

Datganiad Hunanasesiad

Mae’ch datganiad Hunanasesiad yn dangos y canlynol:

  • y dreth sydd arnoch ar yr adeg pan anfonwyd y datganiad 

  • unrhyw daliadau ar gyfrif sy’n ddyledus 

  • unrhyw daliadau yr ydych wedi’u gwneud (bydd y taliadau hyn yn ymddangos fel ‘CR’ ar y datganiad) 

  • unrhyw symiau sydd heb eu talu (er enghraifft, symiau o flynyddoedd treth blaenorol neu symiau o log)

  • eich ‘taliad mantoli’ – dyma’r swm y bydd angen i chi ei dalu os na fydd eich taliadau ar gyfrif yn ddigon i dalu’r dreth sydd arnoch 

Pryd y byddwch yn cael eich datganiad Hunanasesiad 

Byddwch yn cael datganiad ar ôl i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth, neu os bydd newid yn eich amgylchiadau. Bydd y datganiad hwn naill ai yn cael ei anfon atoch drwy’r post, neu gallwch ei gael ar-lein. 

Os byddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth yn hwyr, neu’n agos at y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno, mae’n bosibl na fyddwch yn cael datganiad Hunanasesiad cyn eich dyddiad cau ar gyfer talu. 

Mae hyn yn golygu efallai y bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfrifiad treth i gyfrifo faint o dreth sydd arnoch. 

Os oes angen rhagor o help arnoch i ddeall eich datganiad 

Gallwch wylio fideo sy’n esbonio’ch datganiad Hunanasesiad (yn agor tudalen Saesneg).