Deall eich bil treth Hunanasesiad
Taliadau ar gyfrif
Diffinnir ‘taliadau ar gyfrif’ fel taliadau yr ydych yn eu gwneud tuag at eich bil treth nesaf (gan gynnwys Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 os ydych yn hunangyflogedig).
Mae taliadau ar gyfrif yn helpu i ledaenu cost eich treth drwy dalu fesul 2 randaliad. Mae pob taliad yn hafal i hanner y dreth yr oedd arnoch y llynedd.
Mae’r taliadau hyn yn ddyledus erbyn canol nos ar 31 Ionawr a 31 Gorffennaf.
Mae’n rhaid i chi wneud y 2 daliad, oni bai bod y canlynol yn wir:
-
roedd swm y dreth yr oedd arnoch y llynedd yn llai na £1,000
-
gwnaethoch dalu dros 80% o’r dreth yr oedd arnoch y llynedd y tu allan i’r drefn Hunanasesiad (er enghraifft, gwnaethoch dalu drwy’ch cod treth neu oherwydd bod eich banc eisoes wedi didynnu llog o’ch cynilion)
Bydd eich datganiad Hunanasesiad, neu’ch cyfrif ar-lein, yn dangos symiau’r taliadau hyn os bydd angen i chi eu talu.
Sut y mae taliadau ar gyfrif yn cael eu cyfrifo
Mae taliadau ar gyfrif yn cael eu cyfrifo ar sail eich incwm amcangyfrifedig (hynny yw, fel arfer, y swm y gwnaethoch ei ennill yn ystod y flwyddyn flaenorol). Fel arfer, mae pob taliad yn hafal i hanner y dreth yr oedd arnoch ar gyfer y flwyddyn flaenorol.
Os ydych yn ennill yn fwy na’r swm amcangyfrifedig mewn gwirionedd, mae’n bosibl ni fydd eich taliadau ar gyfrif yn ddigon i dalu’r dreth a godir arnoch a bydd yn rhaid i chi dalu’r gwahaniaeth. Gelwir hyn yn ‘taliad mantoli’.
Os ydych yn ennill yn llai na’r swm amcangyfrifedig, mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio ad-daliad treth.
Os bydd angen i chi wneud taliad mantoli
Bydd taliad mantoli yn cael ei gyfrifo drwy ddidynnu’r taliadau ar gyfrif yr ydych eisoes wedi’u gwneud o gyfanswm y dreth sydd arnoch.
Mae’n rhaid i chi wneud eich taliad mantoli erbyn canol nos ar 31 Ionawr y flwyddyn ganlynol. Bydd hyn hefyd yn cynnwys unrhyw beth sydd arnoch o ran enillion cyfalaf neu fenthyciad myfyriwr (os ydych yn hunangyflogedig).
Os gwnaethoch daliadau ar gyfrif y llynedd
Os gwnaethoch daliadau ar gyfrif y llynedd, bydd angen i chi dalu’r canlynol:
-
eich taliad cyntaf ar gyfrif tuag at eich bil nesaf
-
unrhyw daliad mantoli sydd arnoch (os nad oedd y 2 daliad ar gyfrif y gwnaethoch y llynedd yn ddigon i dalu’r dreth)
Enghraifft
Eich bil ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023 yw £3,000.
Yn seiliedig ar eich enillion ar gyfer 2021 i 2022, gwnaethoch 2 daliad o £900 (cyfanswm o £1,800) ar 31 Ionawr 2023 ac ar 31 Gorffennaf 2023 tuag at y bil hwn – dyma oedd eich ‘taliadau ar gyfrif’.
Gan nad oedd eich taliadau ar gyfrif yn ddigon i dalu’r dreth yr oedd arnoch, mae’n rhaid i chi wneud ‘taliad mantoli’.
Mae’r swm sydd arnoch i’w dalu erbyn canol nos ar 31 Ionawr 2024 yn cynnwys y canlynol:
-
eich ‘taliad mantoli’ o £1,200 ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023 (£3,000 llai £1,800)
-
y taliad cyntaf ar gyfrif o £1,500 (hynny yw, hanner eich bil treth ar gyfer 2022 i 2023) tuag at eich bil treth ar gyfer 2023 i 2024
Mae hyn yn golygu y byddwch wedi talu cyfanswm o £2,700 erbyn 31 Ionawr 2024.
Byddwch wedyn yn gwneud ail daliad ar gyfrif o £1,500 ar 31 Gorffennaf 2024.
Os yw’ch bil treth ar gyfer 2023 i 2024 yn fwy na £3,000 (cyfanswm y 2 daliad ar gyfrif), bydd angen i chi wneud ‘taliad mantoli’ erbyn 31 Ionawr 2025.
Os na wnaethoch daliadau ar gyfrif y llynedd
Os na wnaethoch unrhyw daliadau ar gyfrif y llynedd (er enghraifft, dyma’ch tro cyntaf yn cyflwyno Hunanasesiad) bydd angen i chi dalu’r canlynol:
-
swm llawn eich cyfrifiad treth
-
eich taliad cyntaf ar gyfrif tuag at eich bil nesaf
Enghraifft
Eich bil ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023 yw £3,000.
Cyfanswm y dreth i’w dalu erbyn canol nos ar 31 Ionawr 2024 yw £4,500. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
-
£3,000 i dalu’ch bil treth ar gyfer 2022 i 2023
-
y taliad ar gyfrif cyntaf o £1,500 (hanner eich bil treth ar gyfer 2022 i 2023) tuag at eich bil treth ar gyfer 2023 i 2024
Byddwch wedyn yn gwneud ail daliad ar gyfrif o £1,500 ar 31 Gorffennaf 2024.
Os yw’ch bil treth ar gyfer 2023 i 2024 yn fwy na £3,000 (cyfanswm y 2 daliad ar gyfrif), bydd angen i chi wneud ‘taliad mantoli’ erbyn 31 Ionawr 2025, yn ogystal â’ch taliad cyntaf ar gyfrif ar gyfer y flwyddyn dreth nesaf.
Os yw cyfanswm eich treth ar gyfer y flwyddyn yn is na £3,000, bydd dim ond angen i chi wneud eich taliad cyntaf ar gyfrif erbyn 31 Ionawr 2025, a hynny ar gyfer y flwyddyn dreth ganlynol.
Gwirio’ch taliadau ar gyfrif
-
Dewiswch yr opsiwn i fwrw golwg dros eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad ddiweddaraf.
-
Dewiswch yr opsiwn i fwrw golwg dros ddatganiadau.
Yna, byddwch yn gallu gweld:
-
y taliadau ar gyfrif yr ydych eisoes wedi’u gwneud
-
y taliadau sydd angen i chi eu gwneud tuag at eich cyfrifiad treth nesaf
Os gwnaethoch gyflwyno Ffurflen Dreth ar bapur, gallwch wirio’r taliadau ar gyfrif yr ydych wedi’u gwneud ar eich datganiad Hunanasesiad diwethaf.
Gostwng eich taliadau ar gyfrif
Os ydych yn gwybod y bydd y dreth a fydd arnoch yn is na’r dreth yr oedd arnoch y llynedd, gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EF (CThEF) ostwng eich taliadau ar gyfrif.
Gallwch wneud hyn ar-lein neu drwy’r post.
Bydd angen i chi nodi’r swm yr ydych yn disgwyl ei ennill. Bydd CThEF yn defnyddio’r swm hwn i gyfrifo’ch taliadau ar gyfrif newydd.
I ostwng eich taliadau ar gyfrif ar-lein
-
Dewiswch yr opsiwn i fwrw golwg dros eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad ddiweddaraf.
-
Dewiswch yr opsiwn i ostwng taliadau ar gyfrif.
I ostwng eich taliadau ar gyfrif drwy’r post
Anfonwch ffurflen SA303 i’ch swyddfa dreth.
Os yw’ch bil yn uwch na’r disgwyl
Os byddwch yn gostwng eich taliadau ar gyfrif, a’ch bil yn uwch na’r disgwyl, bydd llog yn cael ei godi arnoch am y gwahaniaeth. Gallwch wirio’r cyfraddau llog (yn agor tudalen Saesneg) i gael gwybod faint o log a godir arnoch.