Dirprwyon: gwneud penderfyniadau dros rywun sydd heb allu
Gwneud cais i fod yn ddirprwy eiddo a materion ariannol
Dilynwch y camau hyn i ddod yn ddirprwy eiddo a materion ariannol neu i gymryd lle dirprwy sy’n bodoli’n barod:
-
Dywedwch wrth yr unigolyn rydych chi’n gwneud cais i fod yn ddirprwy iddynt a gofynwch iddynt lenwi’r ffurflenni perthnasol.
-
Dywedwch wrth o leiaf 3 unigolyn sy’n gysylltiedig â’ch cais a gofynnwch iddynt lenwi’r ffurflenni perthnasol.
-
Llenwch y ffurflenni sy’n weddill.
-
Cyflwynwch y ffurflenni ar-lein neu eu hanfon drwy’r post.
Mae yna ganllawiau gwahanol os ydych chi’n weithiwr cyfreithiol proffesiynol.
Dweud wrth yr unigolyn rydych chi’n gwneud cais i fod yn ddirprwy iddynt
Rhaid i chi neu’ch cynrychiolydd ymweld â’r unigolyn a dweud wrthynt:
- pwy sy’n gwneud cais i fod yn ddirprwy iddynt
- bod eu gallu i wneud penderfyniadau yn cael ei gwestiynu
- beth fyddai cael dirprwy yn ei olygu iddynt
- ble i gael cyngor os ydynt eisiau trafod y cais
Yn ystod yr ymweliad mae’n rhaid i chi roi iddynt:
- y ffurflen hysbysu a chydnabod cais (COP14PADep) - bydd angen i chi lenwi adrannau hysbysu’r ffurflen ac fe allan nhw lenwi’r adran gydnabod os ydynt yn gallu
- ffurflen gydnabod (COP5) - os ydynt yn gallu, bydd angen iddynt lenwi’r ffurflen hon os ydynt am wrthwynebu’r cais neu ddarparu tystiolaeth yn ei erbyn
- unrhyw ddogfennau eraill sy’n ymwneud â’ch cais
Os ydynt yn gallu, dylent lenwi’r ffurflen o fewn 14 diwrnod. Os nad ydynt yn gallu, yna fe allwch anfon y ffurflen hysbysu a chydnabod cais (COP14PADep) yn ôl gyda’r adrannau hysbysu’n unig wedi’u llenwi.
Dweud wrth bobl sy’n gysylltiedig â’ch cais
Rhaid i chi ddweud wrth o leiaf 3 unigolyn sy’n adnabod yr unigolyn rydych chi’n gwneud cais i fod yn ddirprwy iddynt am eich cais. Er enghraifft, perthnasau, gweithiwr cymdeithasol neu feddyg yr unigolyn.
Os ydych chi’n cymryd drosodd gan ddirprwy sy’n bodoli’n barod, dylai un o’r bobl rydych chi’n dweud wrthynt fod yr unigolyn hwnnw (os yw hynny’n bosibl).
Anfonwch atynt:
- hysbysiad y bydd ffurflen gais yn cael ei chyhoeddi (COP15PADep)
- ffurflen gydnabod (COP5) - bydd angen iddynt lenwi’r ffurflen hon os ydynt am wrthwynebu’r cais neu ddarparu tystiolaeth yn ei erbyn
- unrhyw ddogfennau eraill sy’n ymwneud â’ch cais
Gallwch ddweud wrthynt:
- drwy’r post i’w cyfeiriad cartref
- drwy e-bost
- wyneb yn wyneb
Os na allwch ddweud wrth 3 o bobl, yna dylech anfon datganiad tyst (COP24) i’r Llys Gwarchod gyda’ch ffurflenni eraill.
Mae angen iddynt ddychwelyd y ffurflenni i chi o fewn 14 diwrnod iddynt eu cael. Os na fyddwch wedi cael y ffurflenni ar ôl 14 diwrnod, yna gallwch wneud cais hebddynt.
Ffurflenni y mae angen i chi eu llenwi
Mae’r ffurflenni y mae angen i chi eu llenwi yn dibynnu ar p’un a ydych yn cyflwyno’r ffurflenni ar-lein neu drwy’r post.
Mae’n rhaid i chi lenwi ac anfon y ffurflenni o fewn 3 mis ichi ddweud wrth y bobl sy’n gysylltiedig â’ch cais. Os na fyddwch yn gwneud hyn, yna bydd rhaid i chi ail-ddechrau’r broses.
Dylech gadw copi o bob ffurflen rydych yn ei llenwi ar gyfer eich cofnodion.
Mae angen i bob ceisydd lenwi:
- ffurflen gwybodaeth ategol (COP1A)
- ffurflen asesu galluedd (COP3)
- datganiad y dirprwy (COP4)
- ffurflen gydnabod (COP5) os cafodd ei dychwelyd i chi
Efallai na fydd y llys yn derbyn eich cais os na fyddwch yn anfon y ffurflen ‘asesu galluedd’ (COP3).
Os na allwch gael asesiad, rhaid i chi lawrlwytho a llenwi datganiad tyst (COP24) i egluro pam rydych chi’n meddwl nad oes gan yr unigolyn rydych chi’n gwneud cais ar ei gyfer alluedd meddyliol.
Os ydych chi’n cymryd drosodd gan ddirprwy arall
Gallwch wneud cais i gymryd drosodd gan ddirprwy sy’n bodoli’n barod, er enghraifft oherwydd ni allant barhau â’u dyletswyddau mwyach neu os ydych chi’n meddwl na ddylent fod yn ddirprwy mwyach. Dylech egluro pam rydych eisiau cymryd drosodd ganddynt yn eich cais.
Gall y dirprwy presennol wrthwynebu cael ei ddisodli drwy lenwi ffurflen gydnabod (COP5).
Os ydych yn cyflwyno ffurflenni ar-lein
Os bu i’ch cynrychiolydd hysbysu’r unigolyn am eich cais, yna bydd angen i chi gyflwyno y ffurflen hysbysu a chydnabod cais (COP14PADep).
Os bu ichi hysbysu’r unigolyn am eich cais eich hun, yna nid oes angen i chi gyflwyno unrhyw ffurflenni ychwanegol.
Os ydych yn cyflwyno ffurflenni drwy’r post
Bydd angen i chi hefyd anfon:
- ffurflen gais (COP1) - bydd angen i chi anfon y ffurflen wreiddiol ynghyd â chopi
- ffurflen hysbysu a chydnabod cais (COP14PADep)
Cyflwyno eich ffurflenni ar-lein
Byddwch angen cerdyn debyd neu gredyd i dalu’r ffi. Mwy o wybodaeth am faint fydd angen i chi dalu.
Mae yna wasanaeth gwahanol os ydych chi’n weithiwr cyfreithiol proffesiynol.
Cyflwyno eich ffurflenni drwy’r post
Anfonwch y ffurflenni i’r Llys Gwarchod gyda siec am y ffi gwneud cais. Mwy o wybodaeth am faint fydd angen i chi dalu.
Y Llys Gwarchod/Court of Protection
PO Box 70185
First Avenue House
42-49 High Holborn
Llundain
WC1A 9JA
Ar ôl i chi wneud cais
Bydd y Llys Gwarchod yn adolygu eich cais ac yn dweud wrthych:
- os yw eich cais wedi’i gymeradwyo neu ei wrthod
- os ydych angen sefydlu bond diogelwch cyn y gellir eich penodi - gwybodaeth am faint fydd angen i chi dalu
- bod rhaid ichi ddarparu mwy o wybodaeth i gefnogi eich cais, er enghraifft, adroddiad gan y gwasanaethau cymdeithasol
Gan amlaf, ni chynhelir gwrandawiad ar gyfer ceisiadau i fod yn ddirprwy eiddo a materion ariannol. Os bydd un, yna bydd rhaid i chi dalu ffi. Darganfyddwch faint fyddwch angen talu.
Mae’r canllawiau yn egluro beth i’w ddisgwyl mewn gwrandawiad y Llys Gwarchod.
Os bydd angen help neu gymorth arnoch
Gallwch gysylltu â’r Llys Gwarchod.
Y Llys Gwarchod
[email protected]
Rhif ffôn: 0300 456 4600
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau