Amdanom ni
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn gyfrifol am bolisi lles, pensiynau a chynhaliaeth plant. Fel yr adran wasanaeth cyhoeddus mwyaf y DU mae’n gweinyddu Pensiwn y Wladwriaeth ac ystod o fudd-daliadau oedran gweithio, anabledd a salwch i tua 20 miliwn o hawlwyr a chwsmeriaid.
Nod DWP yw gwella bywydau bob dydd pobl a’u helpu i adeiladu gwytnwch ariannol a dyfodol mwy diogel a llewyrchus.
Cyfrifoldebau
Rydym yn gyfrifol am:
-
helpu pobl i symud i mewn i waith a chefnogi’r rhai sydd eisoes mewn gwaith i symud ymlaen, gyda’r nod o gynyddu cyfranogiad cyffredinol y gweithlu
-
helpu pobl i gynllunio a chynilo ar gyfer bywyd diweddarach, tra’n darparu rhwyd ddiogelwch i’r rhai sydd ei hangen nawr
-
darparu gwasanaethau effeithiol, effeithlon ac arloesol i’r miliynau o hawlwyr sy’n dibynnu arnom bob dydd, gan gynnwys y rhai mwyaf bregus mewn cymdeithas
-
gwella profiad ein gwasanaethau tra’n sicrhau’r gwerth mwyaf am arian i’r trethdalwr
Blaenoriaethau
Ein blaenoriaethau ar gyfer Ebrill 2023 i Fawrth 2025 yw:
-
gwneud y mwyaf o gyflogaeth, lleihau anweithgarwch economaidd a chefnogi datblygiad y rhai sydd mewn gwaith
-
darparu cymorth ariannol i bobl sydd â hawl i’w gael
-
galluogi pobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd i ddechrau, aros a llwyddo mewn gwaith, a chael cymorth ariannol
-
cefnogi gwydnwch ariannol yn ddiweddarach mewn bywyd
Darllenwch Adroddiad a chyfrifon blynyddol yr Adran Gwaith a Phensiynau 2022 i 2023 i gael gwybod mwy am sut rydym yn cyflawni yn erbyn ein hamcanion.
Pwy ydym ni
Rydym yn darparu ein gwasanaethau mewn sawl ffordd, er enghraifft drwy’r Ganolfan Byd Gwaith, y Gwasanaeth Pensiwn, y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant a sefydliadau partner.
Darllenwch am ein safonau gwasanaeth yn ein siarter cwsmeriaid.
Budd-daliadau gofalwyr ac anabledd
Rydym yn delio â budd-daliadau gofalwyr ac anabledd gan gynnwys:
Y Ganolfan Byd Gwaith
Mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn helpu pobl i symud o fudd-daliadau i mewn i waith ac yn helpu cyflogwyr i hysbysebu swyddi. Mae hefyd yn delio â budd-daliadau ar gyfer pobl sy’n ddi-waith neu’n methu â gweithio oherwydd cyflwr iechyd neu anabledd.
Cysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith
Y Gwasanaeth Pensiwn
Mae’r Gwasanaeth Pensiwn yn darparu gwybodaeth am bensiynau, budd-daliadau ac ymddeoliad i bensiynwyr presennol a rhai’r dyfodol yn y DU a thramor. Mae hyn yn cynnwys:
Cysylltu â’r Gwasanaeth Pensiwn
Asiantaeth Cynnal Plant a’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Mae cynhaliaeth plant yn gymorth ariannol sy’n helpu tuag at gostau byw bob dydd plentyn pan fydd y rhieni wedi gwahanu. Ar gyfer pobl na allant wneud eu trefniadau teuluol eu hunain, mae’r Asiantaeth Cynnal Plant a’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn:
-
cyfrifo faint o gynhaliaeth y dylai’r rhiant sy’n talu ei dalu i’r rhiant sy’n derbyn
-
casglu’r taliadau cynhaliaeth, os oes angen
Cyrff hyd braich
Mae ein cyrff hyd braich yn chwarae rhan bwysig wrth ddarparu ein gwasanaethau. Mae’r cyrff yn cefnogi ein hamcanion i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i drethdalwyr, ac i ddarparu gwasanaethau gwell ac effeithlon, trwy reoleiddio, arweiniad, amddiffyn defnyddwyr, trin cwynion, ymchwil ac ymchwilio.
Gwybodaeth gorfforaethol
Cael mynediad at ein gwybodaeth
- Ein siart sefydliadol
- Cydraddoldeb ac amrywiaeth
- Modern slavery statement
- Ein defnydd o ynni
- Ein llywodraethiant
- Gweithdrefn gwyno
- Polisi dogfennau hygyrch
- Ymchwil yn DWP
- Ymholiadau gan y cyfryngau
- Ystadegau yn DWP
Swyddi a chontractau
Darllenwch am y mathau o wybodaeth rydyn ni'n ei chyhoeddi'n rheolaidd yn ein Cynllun cyhoeddi. Dysgwch am ein hymrwymiad i Cynllun iaith Gymraeg. Mae ein Siarter gwybodaeth bersonol yn esbonio sut rydyn ni'n ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol. Darllenwch ein polisi ar Defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol.