Cael mynediad at Wasanaethau Gwe SOG
Defnyddiwch y ffurflen hon i gael rhif defnyddiwr a chyfrinair ar gyfer Gwasanaethau Gwe y System Olrhain Gwartheg (SOG).
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Dogfennau
Manylion
Gallwch ddefnyddio meddalwedd fferm gydnaws (tudalen gwe yn Saesneg) i gofrestru genedigaethau gwartheg ac i roi gwybod am symudiadau a marwolaethau i Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP).
I wneud hyn, bydd angen ichi ymrestru ar gyfer Gwasanaethau Gwe SOG drwy lenwi’r ffurflen hon.
Mae rhoi gwybod am y digwyddiadau hyn yn ofyniad cyfreithiol er mwyn atal clefydau a chyfyngu clefydau.
Sut i lenwi’r ffurflen
- Lawrlwythwch y ffurflen a’i chadw.
- Llenwch y ffurflen a’i chadw eto.
- Anfonwch y ffurflen drwy’r ebost at [email protected]. Defnyddiwch ‘Cais am rif defnyddiwr a chyfrinair Gwasanaeth Gwe SOG’ fel pennawd eich neges ebost.
Beth sy’n digwydd nesaf
Bydd GSGP yn anfon yr wybodaeth y mae arnoch ei hangen er mwyn defnyddio Gwasanaethau Gwe SOG.
Rhagor o wybodaeth am yr hyn mae’n rhaid ichi ei gofnodi a rhoi gwybod amdano pan fyddwch chi’n symud gwartheg, buail neu fyfflos a’r terfynau amser.