Canllawiau

Cofrestru â SOG Ar-lein i gynrychioli ceidwaid gwartheg fel asiant

Yr hyn y mae'n rhaid i asiant ei wneud er mwyn cyfathrebu â'r System Olrhain Gwartheg ar ran ceidwad gwartheg, buail neu fyfflos.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Gall ceidwaid gwartheg benodi asiantau i weithredu ar eu rhan, gan gynnwys eu hawdurdodi i ddefnyddio gwasanaeth ar-lein y System Olrhain Gwartheg. Cyn y gallwch weithredu fel asiant a defnyddio gwasanaeth Ar-lein y System Olrhain Gwartheg (SOG) i roi gwybod am enedigaethau, marwolaethau a symudiadau ar ran ceidwad gwartheg, mae angen i chi gofrestru’n asiant

Mae’n rhaid i chi gwblhau ffurflenni cytundeb ar gyfer pob un o’ch cleientiaid, a chael cysylltiad cleient er mwyn i chi allu gweld eu cofnodion drwy SOG Ar-lein.

Cwblhau’r broses cofrestru asiant ar gyfer SOG Ar-lein

Gallwch dadlwythwch gopi o'r ffurflen gofrestru (PDF, 149 KB, 1 page) neu ofyn am ffurflen drwy:

  • ffonio llinell gymorth Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP) ar 0345 050 1234 (llinell Gymraeg: 0345 050 3456)
  • anfon neges e-bost i [email protected]

Cwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd i GSGP yn y cyfeiriad ar y ffurflen.

Bydd GSGP yn cofrestru eich manylion ar gronfa ddata’r System Olrhain Gwartheg (SOG) ac yn anfon llythyr atoch gyda’ch Rhif Adnabod Asiant unigryw a llythyr ar wahân gyda rhif cyfeirnod ar gyfer SOG Ar-lein.

Er mwyn defnyddio SOG Ar-lein, mae angen i chi gofrestru ar gyfer Porth y Llywodraeth fel asiant.

Cofrestru i weld cofnodion cleientiaid

Cyn y gallwch weithredu ar ran eich cleient, mae’n rhaid i chi’ch dau gwblhau’r ffurflen gais ar gyfer awdurdodi asiant i weld cofnodion ar SOG Ar-lein. Gallwch:

Mae’n rhaid i chi a’ch cleient lofnodi a dyddio’r ffurflen a’i dychwelyd i GSGP yn y cyfeiriad ar y ffurflen.

Bydd GSGP yn creu cydberthynas (cysylltiad) ar gronfa ddata SOG rhyngoch chi fel yr asiant, a’ch cleient o dan rif y daliad. Bydd wedyn yn anfon llythyrau atoch er mwyn cadarnhau y gallwch ddechrau gweithredu ar ran eich cleient.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 6 Mai 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 Hydref 2021 + show all updates
  1. This guidance has been updated to show it no longer applies to Scotland.

  2. CTSW1 and CTSW2 forms updated for accessibility

  3. Government gateway Link Updated

  4. CTSW1 form updated

  5. First published.

Print this page