Canllawiau

Gwartheg heb basbortau

Mae'n rhaid ichi gael trwydded symud ar gyfer anifeiliaid y gwrthodwyd rhoi pasbort iddynt, anifeiliaid a aned cyn 1 Awst 1996 a lloi heb eu cofrestru.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Ni chewch symud unrhyw wartheg, buail na byfflos byw heb basbort llawn.

Symud anifeiliaid y gwrthodwyd rhoi pasbort iddynt

Bydd gan wartheg y gwrthodwyd rhoi pasbortau iddynt Hysbysiad o Gofrestru. Ni chaiff yr anifeiliaid hyn gael eu symud yn fyw o’ch daliad, ac eithrio â thrwydded symud gan Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP).

Ni chaiff yr anifeiliaid hyn fynd i mewn i’r gadwyn fwyd ddynol o dan unrhyw amgylchiadau.

Er mwyn cael trwydded symud, cysylltwch â GSGP gan roi enw a chyfeiriad y safle y bydd yr anifeiliaid yn mynd iddo i’w gwaredu. Gan ddibynnu ar oedran yr anifail, mae’n rhaid iddynt fynd yn uniongyrchol i safle samplu BSE, iard gelanedd neu gwb cŵn hela.

  • dim ond i safle samplu BSE cymeradwy y gall anifeiliaid dros 48 mis oed fynd (mae eithriad ar gyfer gwartheg ar Ynysoedd Sili, Ynys Wair, Ynys Enlli, Ynys Echni ac Ynys Bŷr)
  • dim ond i gwb cŵn hela neu iard gelanedd y gall anifeiliaid o dan 48 mis oed fynd

Bydd GSGP yn anfon trwydded symud atoch (CPP1b).

Mae’n rhaid ichi roi’r drwydded i’r safle samplu, y cwb cŵn hela neu’r iard gelanedd. Byddant yn llenwi’r manylion lladd ac yn ei dychwelyd i GSGP.

Nid oes angen ichi gofnodi symudiad oddi ar eich daliad nac i’r safle samplu. Bydd GSGP yn cofnodi marwolaeth yr anifail ar y System Olrhain Gwartheg ar ôl cael cadarnhad gan y safle samplu, y cwb cŵn hela neu’r iard gelanedd.

Mae’n rhaid ichi ddiweddaru cofrestr eich daliad gan nodi’r dyddiad y gadawodd yr anifail eich daliad.

Symud anifeiliaid a aned cyn 1 Awst 1996

Mae cyfyngiadau ar symud yn gymwys i’r holl wartheg a aned neu a fagwyd yn y DU cyn 1 Awst 1996. Mae hysbysiadau cyfyngu wedi’u cyflwyno i holl geidwaid y gwartheg hyn ar gyfer eu hanifeiliaid a aned cyn 1 Awst 1996. I symud un o’r anifeiliaid hyn mae’n rhaid ichi wneud cais i Ganolfan Gwasanaethau Arbenigol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yng Nghaerwrangon am drwydded symud . Mae’r ffurflen hon hefyd yn gymwys pan fyddwch yn symud anifail rhwng daliadau cysylltiedig.

E-bost: [email protected]

Ffôn: 0345 601 4858

Ffacs: 01905 768 649

Block C, Spur 10
Government Buildings
Whittington Road
Worcester
WR5 2LQ

Mae’n rhaid hysbysu GSGP o bob achos o symud anifeiliaid a aned cyn 1 Awst 1996 yn y ffordd arferol.

Mae’r gwartheg hyn wedi’u heithrio’n barhaol rhag y gadwyn bwyd a phorthiant, gan gynnwys i’w hallforio.

Symud lloi heb eu cofrestru

Os bydd angen ichi symud llo am resymau lles neu o dan amgylchiadau eithriadol megis llifogydd neu dân cyn ichi gael ei basbort, mae’n rhaid ichi gysylltu â llinell gymorth GSGP ar unwaith.

Bydd angen ichi roi’r canlynol:

  • y wybodaeth sydd ei hangen i wneud cais am basbort gwartheg
  • gwybodaeth am y symudiad
  • gwybodaeth am geidwad yr anifail

Bydd GSGP yn anfon trwydded symud atoch drwy’r post, dros y ffacs neu drwy e-bost. Mae’n rhaid ichi anfon y drwydded symud gyda’r anifail pan fydd yn symud a’i dychwelyd wedyn i GSGP.

Os bydd y wybodaeth a roddwyd gennych yn pasio gwiriadau dilysu GSGP, bydd yn anfon pasbort ar gyfer y llo at y ceidwad. Os na fydd y wybodaeth yn pasio’r gwiriadau, bydd GSGP yn cysylltu â chi er mwyn ei chywiro. Os na all GSGP gywiro’r wybodaeth o hyd, bydd yn cyflwyno hysbysiad o gofrestru i’r anifail (CPP35).

Mae hyn yn gymwys i loi o dan 27 diwrnod oed yn unig. Nid yw’n gymwys i loi y gwrthodwyd rhoi pasbort iddynt eisoes.

Cysylltu â GSGP

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain

BCMS
Curwen Road
Workington
Cumbria
CA14 2DD

E-bost [email protected]

Llinell gymorth Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain i geidwaid gwartheg yng Nghymru 0345 050 3456

Llinell Saesneg 0345 050 1234

Oriau agor arferol llinell gymorth GSGP: rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ar gau ar y penwythnosau a gwyliau banc. Codir y gyfradd leol am bob galwad.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 6 Mai 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 Hydref 2021 + show all updates
  1. This guidance has been updated to show it no longer applies to Scotland.

  2. First published.

Print this page