Ffurflen

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfradd is ar gyfer gwragedd priod

Defnyddiwch ffurflen CF9 i ildio’ch hawl i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfradd is, neu i ofyn am dystiolaeth bod gennych hawl i dalu ar y gyfradd is.

Dogfennau

Cyfraniadau gwraig briod ar gyfradd is (CF9)

Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEM

Manylion

Defnyddiwch ffurflen CF9 os ydych yn wraig briod a’ch bod naill ai:

  • am ildio’ch hawl i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfradd is
  • angen tystysgrif dewis, sef CA4139, fel tystiolaeth bod gennych hawl i dalu cyfraniadau ar gyfradd is

Cyn i chi ddechrau

Mae’r ffurflen hon yn rhyngweithiol (un yr ydych yn ei llenwi ar y sgrin) ac mae’n rhaid i chi gael Adobe Reader er mwyn ei llenwi.

Cysylltwch â’r ddesg gymorth Gwasanaethau ar-lein os cewch broblemau wrth agor neu gadw’r ffurflen.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 Ebrill 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 31 Mawrth 2016 + show all updates
  1. Welsh tranlation added to the page.

  2. First published.

Print this page