Canllawiau

Gwirio a yw galwad ffôn rydych wedi’i chael gan CThEF yn ddilys

Gwirio rhestr o gysylltiadau ffôn diweddar gan CThEF i’ch helpu i benderfynu a yw galwad ffôn rydych wedi’i chael yn sgam.

Os nad yw’ch galwad ffôn wedi’i rhestru yma, gwiriwch gohebiaeth CThEF sy’n defnyddio mwy nag un dull cyfathrebu.

Treth Enillion Cyfalaf wrth werthu eiddo rhent

O 15 Ebrill 2024 hyd at a chan gynnwys 15 Mai 2024, mae’n bosibl y byddwch yn cael galwad ffôn gan CThEF.

Os cawsoch e-bost gan CThEF ar 7 Mehefin 2023 ynglŷn â Threth Enillion Cyfalaf wrth werthu eiddo rhent, mae’n bosibl y byddwch yn cael galwad ffôn gan CThEF.

Nod yr alwad ffôn yw:

  • casglu adborth ynglŷn â’r e-bost
  • cael gwybod a oedd yr e-bost yn ddefnyddiol i chi

Mae’r holl adborth ar yr alwad yn wirfoddol, ac ni fyddwn yn:

  • gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol neu ariannol
  • gallu rhoi unrhyw gyngor ariannol

Rheoli dyledion

Mae CThEF yn anfon negeseuon llais at rai cwsmeriaid, sy’n esbonio’r hyn y mae angen i chi ei wneud os ydych ar ei hôl hi gyda’ch taliadau. Bydd cwsmeriaid yn cael y rhain fel galwad ffôn i ffonau llinell dir a ffonau symudol. Byddan nhw’n rhoi gwybodaeth am dalu CThEF (yn Saesneg) neu rif ffôn llinell gymorth.

Mae CThEF hefyd yn anfon negeseuon sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd defnyddio’r wybodaeth gywir wrth dalu.

Ni fydd y negeseuon yn gofyn am wybodaeth bersonol na gwybodaeth ariannol o unrhyw fath.

Galwadau ffôn eraill y dylech eu gwirio

Gallwch hefyd wirio’r galwadau ffôn a restrir ar y dudalen gohebiaeth CThEF sy’n defnyddio mwy nag un dull cyfathrebu.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 Ebrill 2024 + show all updates
  1. Information about Capital Gains Tax when selling a rental property research has been added.

  2. Information about Single Trade Window user testing has been added to the page.

  3. Research on Enterprise Investment Schemes has been extended to Wednesday 31 January 2024.

  4. Information about Enterprise Investment Schemes research has been added.

  5. Added translation

  6. Inheritance Tax and property valuation research and customs declaration follow-up research contacts added.

  7. We have added 'New starter checklist research' and removed 'Coronavirus Job Retention Scheme — research about employers' experiences'.

  8. Research on employers' experiences of the Coronavirus Job Retention Scheme has been added.

  9. Added translation

  10. Added information on Self Assessment tax return — research with first-time customers.

  11. Added information on Haulier's Survey.

  12. Added information on research to understand customer experiences of making a tax code amendment or correction.

  13. Added 'Digital Products and Services ― research with businesses and agents' section.

  14. Added 'VAT returns communications campaign ― research with businesses' section.

  15. A road hauliers survey will be carried out between August 2021 and 31 October 2021.You may get a telephone call from IFF Research to invite you to take part.

  16. Added translation

Print this page