Canllawiau

Gwirio a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am eich incwm o blatfformau ar-lein

Gwirio a oes angen i chi ddatgan incwm o werthu meddiannau personol, nwyddau neu wasanaethau ar-lein, creu cynnwys ar-lein neu roi eiddo ar osod gan ddefnyddio platfformau digidol.

Efallai y bydd angen i chi roi gwybod i CThEF os ydych yn cael incwm drwy farchnad ar-lein neu’r cyfryngau cymdeithasol. Gallai hyn fod yn wir p’un a yw’n brif ffynhonnell eich incwm neu’n ffynhonnell ychwanegol — a elwir weithiau’n ‘prosiect pres poced’.

Gallai incwm fod yn arian, rhoddion neu wasanaethau rydych yn eu cael o wneud y canlynol:

  • gwerthu meddiannau personol
  • gwerthu nwyddau
  • darparu gwasanaeth
  • creu cynnwys ar-lein
  • rhoi tir neu eiddo ar osod

Gwerthu meddiannau personol

‘Meddiannau personol’ yw’r eitemau hynny sy’n perthyn i chi at eich defnydd eich hun. Efallai eich bod chi wedi’u prynu neu eu cael yn rhodd.

Gall meddiannau personol gynnwys pethau fel y canlynol:

  • eich dillad
  • eich addurnau
  • offer eich cegin
  • eich bwrdd a’ch cadeiriau
  • eich gemwaith
  • eich cyfrifiaduron a’ch ffonau

Os ydych yn gwerthu meddiannau personol yn unig, ni fyddwch yn debygol o orfod talu Treth Incwm. Fodd bynnag, yn dibynnu ar yr eitemau rydych yn eu gwerthu ac am faint rydych yn eu gwerthu, efallai y bydd angen i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf. Mae hyn yn berthnasol i werthu meddiannau personol pan fo’r eitem werth dros £6,000.

Bydd yr offeryn hwn yn eich helpu gyda phenderfynu a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am yr incwm hwn ai peidio.

Mae’r terfyn o £6,000 ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf yn berthnasol i feddiant personol unigol yn ogystal â bod yn berthnasol i gyfanswm gwerth casgliad o eitemau, er enghraifft:

  • darnau gêm gwyddbwyll
  • llyfrau gan yr un awdur neu ar yr un pwnc
  • addurnau sy’n mynd gyda’i gilydd, fel fasys neu gerfluniau bach

Enghraifft — arian yn yr atig

Rydych yn clirio’ch atig ac yn penderfynu gwerthu’ch eitemau diangen gan ddefnyddio marchnad ar-lein. Mae’n annhebygol y bydd angen i chi roi gwybod i CThEF am yr incwm hwn na thalu unrhyw dreth, cyhyd â bo dim un o’r eitemau’n werth dros £6,000.

Enghraifft — gwerthu meddiant personol am elw

Rydych yn adnewyddu’ch tŷ ac yn penderfynu gwerthu llun rydych yn berchen arno gan ddefnyddio marchnad ar-lein. Gwnaethoch brynu’r llun 5 mlynedd yn ôl am £1,600 ac rydych yn ei werthu am ei werth marchnadol presennol o £8,000. Efallai y bydd angen i chi roi gwybod i CThEF am yr incwm hwn, gan eich bod wedi ennill £6,400.

Gwerthu nwyddau

Mae’n debyg eich bod yn masnachu os byddwch yn gwerthu nwyddau:

  • rydych wedi’u prynu gyda’r bwriad o’u gwerthu am elw
  • rydych wedi’u gwneud, gan gynnwys eitemau rydych yn eu gwneud fel rhan o hobi

Enghraifft — uwchgylchu a gwerthu

Rydych yn uwchgylchu dodrefn ail law fel hobi gyda’r bwriad o’u hailwerthu. Rydych yn eu gwerthu drwy farchnad ar-lein.

Rydych wedi cael incwm drwy blatfform ar-lein o werthu nwyddau, ac efallai y bydd angen i chi roi gwybod i CThEF am yr incwm hwn.

Enghraifft — mewnforio eitemau i’w gwerthu

Rydych yn mewnforio camerâu ac ategolion ar-lein o’r dwyrain pell ac yn eu gwerthu ar farchnad ar-lein, gan wneud elw.

Rydych wedi cael incwm drwy blatfform ar-lein o werthu nwyddau, ac efallai y bydd angen i chi roi gwybod i CThEF am yr incwm hwn.

Enghraifft — ailwerthu dillad ac eitemau eraill

Ar ôl ennill rhywfaint o arian o werthu dillad diangen, rydych yn dechrau prynu eitemau o arwerthiannau cist car a siopau elusen. Rydych yn gwerthu’r eitemau hyn drwy farchnadoedd ar-lein, gyda’r bwriad o’u gwerthu am fwy o arian na wnaethoch chi dalu amdanynt. Dyma rywbeth rydych yn ei wneud yn rheolaidd.

Rydych wedi cael incwm drwy blatfform ar-lein o werthu nwyddau, ac efallai y bydd angen i chi roi gwybod i CThEF am yr incwm hwn.

Darparu gwasanaeth

Gwasanaethau yw’r pethau rydych yn eu gwneud i bobl eraill, er enghraifft:

  • garddio a gwaith atgyweirio
  • cerdded cŵn
  • gyrru tacsi
  • danfon bwyd
  • rhoi gwersi
  • gwarchod plant neu fod yn nani
  • llogi offer

Enghraifft — gwarchod plant neu fod yn nani

Rydych yn darparu gwasanaethau fel gwarchodwr plant neu nani. Rydych yn defnyddio platfform ar-lein i greu proffil, hysbysebu a gwerthu eich gwasanaethau.

Rydych wedi cael incwm drwy blatfform ar-lein o ddarparu gwasanaeth, ac efallai y bydd angen i chi roi gwybod i CThEF am yr incwm hwn.

Creu cynnwys ar-lein

Gallai cynnwys ar-lein fod yn un o’r canlynol:

  • creu fideos ar-lein
  • cynhyrchu podlediadau
  • gwaith dylanwadu ar y cyfryngau cymdeithasol

Mae incwm o greu cynnwys ar-lein yn cynnwys rhoddion a gwasanaethau a gewch o hyrwyddo cynhyrchion ar-lein.

Enghraifft — gwaith dylanwadu ar y cyfryngau cymdeithasol

Rydych yn grëwr cynnwys a dylanwadwr â sianel ar y cyfryngau cymdeithasol lle’r ydych yn adolygu cynhyrchion harddwch. Rydych yn cael incwm o hysbysebu ar eich fideos. Rydych hefyd yn cael rhoddion gan y cwmnïau yr ydych yn adolygu eu cynhyrchion.

Efallai y bydd angen i chi roi gwybod i CThEF am yr incwm hwn.

Rhoi tir neu eiddo ar osod

Gallai tir neu eiddo fod yn un o’r canlynol:

  • ystafell yn eich prif gartref, gan gynnwys defnydd fel gwely a brecwast
  • eich prif gartref
  • eiddo nad yw’n brif gartref i chi
  • tir, er enghraifft eich dreif

Enghraifft — rhoi ystafell sbâr ar osod

Rydych yn rhoi eich ystafell sbâr ar osod am gyfnodau byr dymor gan ddefnyddio platfform ar-lein. Rydych yn cael taliadau rheolaidd o’r platfform ar-lein ar ôl i’ch gwesteion gyrraedd.

Rydych wedi cael incwm rhent o blatfform ar-lein, ac efallai y bydd angen i chi roi gwybod i CThEF am yr incwm hwn.

Gwirio a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am eich incwm

Gallwch ddefnyddio’r offeryn hwn i wirio a oes angen i chi roi gwybod i ni am incwm a gewch o ddefnyddio platfformau ar-lein.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen rhywfaint o wybodaeth am eich incwm arnoch. Gallai hyn gynnwys:

  • faint a gawsoch, neu faint yr ydych yn disgwyl ei gael yn ystod y flwyddyn dreth
  • p’un a ydych yn rhannu’r incwm hwn â rhywun arall
  • a oes gennych incwm o ffynonellau eraill y mae angen i chi ei ddatgan

Pan fyddwch yn rhoi gwybod i CThEF am eich incwm, bydd angen i chi roi gwybod am yr incwm ar gyfer y flwyddyn dreth, sef o 6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol.

Bydd rhai platfformau ar-lein yn dangos eich incwm ar gyfer y flwyddyn galendr, sef o 1 Ionawr i 31 Rhagfyr. Os felly, bydd angen i chi gyfrifo’r incwm ar gyfer y flwyddyn dreth cyn defnyddio’r offeryn.

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i benderfynu a oes angen i chi roi gwybod i ni am yr incwm hwn.

Dechrau nawr

Gwybodaeth y mae platfformau ar-lein yn ei chasglu

Os byddwch yn gwerthu ar blatfformau digidol, efallai y bydd angen i weithredwr y platfform wneud y canlynol:

  • casglu a gwirio manylion penodol amdanoch
  • rhoi gwybod i CThEF am rai manylion

Dysgwch ragor am werthu nwyddau a gwasanaethau ar blatfformau digidol (yn agor tudalen Saesneg).

Mae angen eich help arnom i wella ac i wneud yn siŵr bod GOV.UK ar ei orau i chi. Gallwch roi adborth i ni ynghylch gwirio a oes angen i chi roi gwybod i CThEF am eich incwm o blatfformau ar-lein.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 28 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 Rhagfyr 2024 + show all updates
  1. A link has been added to leave feedback about this guidance. Information has been added to make it clearer when you must tell HMRC about income you've received.

  2. Added translation

  3. First published.

Print this page