Canllawiau

Carchar Chelmsford

Mae Chelmsford yn garchar a sefydliad troseddwyr ifanc (STI) yn Chelmsford, Essex ar gyfer dynion 18 oed a throsodd.

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Bwcio a chynllunio eich ymweliad â charchar Chelmsford

I ymweld â rhywun yn Chelmsford, rhaid i chi:

  • bod ar restr ymwelwyr y person hwnnw
  • bwcio eich ymweliad 3 wythnos ymlaen llaw
  • bod â’r ID gofynnol gyda chi pan fyddwch yn mynd

Rhaid i o leiaf un ymwelydd fod yn 18 oed neu’n hŷn ar bob ymweliad.

Efallai y bydd cyfyngiadau ar nifer yr ymweliadau y gall carcharor eu cael.

Cysylltwch â Chelmsford os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld.

Help gyda chost eich ymweliad

Os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:

  • teithio i Chelmsford
  • rhywle i aros dros nos
  • prydau bwyd

Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau

Gallwch drefnu eich ymweliad ar-lein

Amseroedd ymweld

  • Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Mercher, dydd Iau, dydd Sadwrn a dydd Sul: rhwng 2:15pm a 3:45pm.

Mae ymweliadau ar Wyliau Banc yn newid. Bydd diweddariadau’n cael eu cyhoeddi yn y carchar i garcharorion a thrwy Wefan Teuluoedd Ormiston ac yn y Ganolfan Ymweliadau.

Bydd y ganolfan ymwelwyr yn agor am 12:30pm ac ni fydd neb yn gallu mynd i mewn ar ôl 2:15pm. Ni fyddwch chi’n cael mynd i mewn ar ôl yr amser hwn.

Sut i drefnu ymweliadau cyfreithiol a phroffesiynol

Gallwch chi drefnu ymweliad cyfreithiol/proffesiynol wyneb yn wyneb drwy anfon e-bost at [email protected]. Rhaid i chi sicrhau bod holl fanylion y carcharor a’r ymwelydd yn gywir.

Er mwyn helpu i gyflymu eich cais, yn eich e-bost, rhowch ddetholiad o ddyddiadau ar gyfer eich ymweliad arfaethedig.

Ar ddiwrnod yr ymweliad, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd gyda’r ID cywir. Gweler y mathau derbyniol o ID yma.

Amseroedd Ymweliadau Cyfreithiol Wyneb yn wyneb:

  • O ddydd Llun i ddydd Gwener: 9am i 10am a 10:30am i 11:30am
  • Dydd Llun i ddydd Iau: 2pm i 3pm a 3:30pm i 4:30pm

Amseroedd ymweld galwadau fideo (drwy lwyfan fideo’r cwmwl):

Gallwch chi ofyn am slot amser dwy awr o 9am, a fydd yn cael ei ganiatáu yn dibynnu ar argaeledd.

  • O ddydd Llun i ddydd Gwener: 9am i 10am a 10:30am i 11:30am
  • Dydd Llun i ddydd Iau (PM): 2pm i 3pm a 3:30pm i 4:30pm

Cyrraedd Chelmsford

Dod o hyd i Chelmsford ar fap

Mae Carchar Chelmsford tua milltir o Orsaf Chelmsford lle gallwch chi gymryd tacsi neu fws lleol.

I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus:

Os ydych chi’n gyrru i Garchar Chelmsford, does dim parcio i ymwelwyr. Mae’r maes parcio cyhoeddus agosaf 5 munud o waith cerdded o’r carchar ar Ffordd Fictoria.

Mynd i mewn i Chelmsford

Rhaid i bob ymwelydd, sy’n 16 oed neu’n hŷn, brofi pwy ydyw cyn mynd i’r carchar. Darllenwch y rhestr o fathau derbyniol o ID wrth ymweld â charchar.

Bydd angen i bob ymwelydd, gan gynnwys plant, gael chwiliad ‘patio i lawr’. Efallai y cewch eich arogli gan gŵn diogelwch hefyd.

Mae gan Chelmsford bolisi cod gwisg sy’n addas i deuluoedd, sy’n golygu y dylai ymwelwyr wisgo’n briodol ac addas. Mae hynny’n golygu dim festiau, dim dillad chwaraeon, hwdis na dillad cuddliw, dim topiau isel, dim trowsus byr a dim ffrogiau na sgertiau byr. Efallai y gwrthodir mynediad i chi hefyd os ydych chi’n gwisgo dillad wedi’u rhwygo, esgidiau blaen dur, penwisgoedd ar wahân i’r rhai sy’n cael eu gwisgo am resymau crefyddol a gemwaith, ac eithrio modrwy briodas/dyweddïo a stydiau clust bach.

Mae teuluoedd Ormiston yn rhedeg y bar te yn y neuadd ymweliadau. Does dim llawer o eitemau ar gael ar hyn o bryd.

Mae rheolaethau llym ar yr hyn y gallwch ddod i mewn i Chelmsford. Bydd yn rhaid i chi adael y rhan fwyaf o’r pethau sydd gennych gyda chi mewn locer neu gyda swyddogion diogelwch. Mae hyn yn cynnwys pramiau a seddi ceir. Bydd angen £1 arnochchi ar gyfer y locer.

Bydd swyddog yn dweud wrthych beth yw’r rheolau ar ddechrau eich ymweliad. Os byddwch yn torri’r rheolau, gallai eich ymweliad gael ei ganslo a gallech gael eich gwahardd rhag ymweld eto.

Cyfleusterau ymweld

Mae’r ganolfan ymwelwyr yn cael ei rhedeg gan Deuluoedd Ormiston ac mae’n cynnig cefnogaeth, cyngor a chymorth i deuluoedd a ffrindiau sy’n dod i ymweld.

Bydd y man chwarae i blant a’r bar byrbrydau ar gael i’w defnyddio yn ystod eich ymweliad.

Mae’r ganolfan ymwelwyr ar agor:

  • Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau: 12:30pm i 4:15pm
  • Dydd Sadwrn a dydd Sul: 12:30pm i 4:15pm

Mae angen i chi gyrraedd y Ganolfan Ymwelwyr rhwng 12:30pm a 2:10pm ar gyfer ymweliad prynhawn.  Yr amser olaf yw 2:15pm ac ni fyddwch chi’n gallu dod i mewn i’r carchar ar ôl yr amser hwn.

Ffôn: 01245 552 452

Diwrnodau teulu

Mae Teuluoedd Ormiston yn cynnal 10 ymweliad plant a 2 ddiwrnod teulu bob blwyddyn Mae diwrnodau teulu yn rhoi mwy o amser i ddynion dreulio amser gyda’u teulu a’u plant mewn amgylchedd ymlaciol.

Gall dynion wneud cais am yr ymweliadau hyn ar yr adain.

Cadw mewn cysylltiad â rhywun yn Chelmsford

Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â rhywun yn ystod eu hamser yn Chelmsford.

Galwadau fideo diogel

I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:

  • Lawrlwytho ap Fideo’r Carchar
  • Creu cyfrif
  • Cofrestru pob ymwelydd
  • Ychwanegu’r carcharor at eich rhestr cysylltiadau.

Sut i drefnu galwad fideo ddiogel

Gallwch ofyn am alwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn drwy ap Prison Video.

Byddwch yn cael hysbysiad pan fydd eich cais wedi cael ei dderbyn.

Rhagor o wybodaeth am sut mae’n gweithio

Galwadau ffôn

Mae gan y rhan fwyaf o garcharorion ffonau yn eu celloedd ond bydd yn rhaid iddyn nhw eich ffonio chi bob amser. Maen nhw’n prynu credydau ffôn i wneud hyn.

Gallant ffonio unrhyw un a enwir ar eu rhestr o ffrindiau a theulu. Caiff y rhestr hon ei gwirio gan y staff diogelwch pan fyddant yn cyrraedd am y tro cyntaf, felly gall gymryd ychydig ddyddiau cyn y gallant ffonio.

Nid oes gan ddynion yn yr uned wahanu ffonau yn eu celloedd ond maen nhw’n cael un alwad y dydd.

Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio gwasanaeth negeseuon llais y carchar.

Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.

E-bost

Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun yn Chelmsford drwy ddefnyddio’r gwasanaeth E-bostio Carcharor. Efallai y byddwch hefyd yn gallu atodi lluniau a derbyn ymatebion, yn dibynnu ar y rheolau yn y carchar.

Llythyrau

Gallwch anfon llythyrau ar unrhyw adeg. Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen. Os nad ydych chi’n gwybod eu rhif carcharor, cysylltwch â Chelmsford.

Bydd pob llythyr yn y post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’i gwirio gan swyddogion.

Anfon arian a rhoddion

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.

Ni allwch bellach anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec, archeb bost nac anfon arian parod drwy’r post.

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, efallai y gallwch wneud cais am eithriad - er enghraifft:

  • os nad ydych yn gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na’r rhyngrwyd
  • os nad oes gennych chi gerdyn debyd

Bydd hyn yn caniatáu i chi anfon arian drwy’r post.

Rhoddion a pharseli

Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y gall dynion yn Chelmsford dderbyn parseli. Gall dynion wneud cais am hyn.

Mae pob carcharor newydd yn cael label hunan-adlynol a ffurflen gwybodaeth eiddo y gallan nhw ei hanfon at deulu neu ffrindiau er mwyn derbyn parsel o eitemau yn ôl. Rhaid i bob parsel fod ag enw a chyfeiriad yr anfonwr ar y label a rhaid iddyn nhw gael eu cludo gan Parsel Force. Rhaid dilyn yr holl gyfarwyddiadau ar y ffurflen gwybodaeth eiddo o ran maint, pwysau, pecynnu ac ati, neu bydd y parsel yn cael ei wrthod.. Dim ond dillad y gall y parsel eu cynnwys.

Caiff pob parsel ei wirio gan swyddogion.

Caniateir i ffrindiau a theuluoedd carcharorion anfon llyfrau’n uniongyrchol at eu hanwyliaid, neu gallant archebu llyfrau gan fanwerthwyr cymeradwy, sy’n gallu dod o hyd i’r llyfrau a’u hanfon ymlaen at garcharorion.

I weld y rhestr lawn o fanwerthwyr cymeradwy, gallwch ddarllen Polisi Cymhellion Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, Atodiad F.

Bywyd yn Chelmsford

Mae Chelmsford wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall dynion ddysgu sgiliau newydd i’w helpu ar ôl cael eu rhyddhau.

Diogelwch a diogelu

Mae gan bob carcharor yn Chelmsford hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.

I gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud pan fyddwch chi’n poeni neu’n pryderu am rywun yn y carchar, ewch i wefan llinell gymorth Teuluoedd Carcharorion.

Gall dynion sydd angen siarad yn gyfrinachol neu sydd mewn trallod ddefnyddio cynllun gwrandawyr y Samariaid, yn ogystal â’r ‘cynllun preswyl’ sydd wedi’i gynllunio i helpu carcharorion newydd yn eu dyddiau cyntaf.

Cyrraedd a’r noson gyntaf

Pan fydd rhywun yn cyrraedd Chelmsford am y tro cyntaf, bydd yn gallu cysylltu ag aelod o’r teulu dros y ffôn. Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda’r nos, yn dibynnu ar yr amser maen nhw’n cyrraedd.

Byddan nhw’n cael siarad â rhywun a fydd yn gweld sut maen nhw’n teimlo ac yn gofyn am unrhyw anghenion iechyd a llesiant sydd ganddyn nhw bryd hynny.

Cynefino

Bydd pob carcharor sy’n cyrraedd Chelmsford yn cwblhau cyfnod cynefino. Byddant yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:

  • iechyd a lles, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
  • unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
  • datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
  • mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd

Mae pawb hefyd yn cael gwybod am y rheolau, diogelwch tân, a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau yn gweithio.

Llety

Mae tua 750 o garcharorion yn Chelmsford mewn cymysgedd o gelloedd unigol a chelloedd dwbl.

Mae gan garcharorion fynediad at gampfa a llyfrgell.

Addysg a gwaith

Gall carcharorion ddilyn cyrsiau mewn sgiliau sylfaenol ac addysg, gan gynnwys mathemateg a Saesneg, TG, busnes, dylunio graffig a datblygiad personol a chymdeithasol, pob un yn cynnig cymwysterau cydnabyddedig.

Mae gan garcharorion fynediad at ystod o hyfforddiant galwedigaethol, gan gynnwys peintio ac addurno, sgiliau amrywiol a glanhau diwydiannol. Mae Chelmsford hefyd yn cynnig y cwrs iechyd a diogelwch, y cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS), cyrsiau toi a chwrs cynhyrchu cerddoriaeth.

Mae cyfleoedd gwaith ar gael ym maes golchi dillad, ailgylchu, pacio te, plygu cardiau, stripio gwifrau, iardiau, gerddi ac arlwyo.

Mae gan Garchar Chelmsford ganolfan ailsefydlu weithredol sy’n helpu carcharorion sydd â phroblemau tai, budd-daliadau a chyflogaeth, gyda chymorth staff o’r Ganolfan Byd Gwaith ac Ymddiriedolaeth Plant a Theuluoedd Ormiston.

Rhyddhau dros dro

Nid yw Chelmsford yn cynnig rhyddhau ar drwydded dros dro (ROTL).

I gael mynediad ato, bydd carcharorion sydd â mwy na 16 mis ar ôl i’w bwrw yn cael eu trosglwyddo i garchar hyfforddi priodol.

Sefydliadau y mae Chelmsford yn gweithio gyda nhw

Mae Chelmsford yn cael cymorth a chefnogaeth gan Deuluoedd Ormiston.

Cefnogaeth i deulu a ffrindiau

Cael gwybod am gyngor a llinellau cymorth ar gyfer teulu a ffrindiau.

Cefnogaeth yn Chelmsford

Mae Teuluoedd Ormiston yn ceisio lleihau pryder pobl ifanc a phlant sy’n ymweld â’r carchar ac yn cefnogi eu llesiant emosiynol a’u presenoldeb yn yr ysgol drwy ddarparu lle diogel iddyn nhw siarad, chwarae a mynegi eu hunain.

I gael cymorth un-i-un, anfonwch e-bost at: [email protected]

Pryderon, problemau a chwynion

Mewn argyfwng

Ffoniwch 01245 552 000 os ydych chi’n meddwl bod carcharor mewn perygl uniongyrchol o niwed. Gofynnwch am y Swyddog Trefniadol ac eglurwch fod eich pryder yn argyfwng.

Categori cyswllt Rhif ffôn Gwybodaeth ychwanegol
Dim brys 01245 552 297 Ffoniwch y rhif hwn os oes gennych chi bryderon difrifol am ddiogelwch neu lesiant carcharor ond nad yw’r pryderon yn peryglu bywyd, neu lenwi ffurflen gyswllt dalfa fwy diogel ar y wefan Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion.
Llinell Gymorth Gonestrwydd Staff 0800 917 6877
(peiriant ateb 24 awr)
Gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. Os ydych chi’n poeni bod carcharor yn cael ei fwlio gan aelod o staff, gallwch ddefnyddio’r rhif hwn. Gan fod y llinell hon yn cael ei rheoli ar wahân i’r carchar, gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw.
Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion 0808 808 2003 Gall y Llinell Gymorth i Deuluoedd Carcharorion ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol.
Cyswllt Digroeso gan Garcharor 0300 060 6699 Os yw carcharor yn cysylltu â chi a’ch bod am iddo roi’r gorau i wneud hyn, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan Garcharor.

Gallwch lenwi’r ffurflen ar-lein ar gyfer atal cyswllt gan garcharor, anfon e-bost at [email protected] neu gysylltu dros y ffôn.

Costau galwadau

Problemau a chwynion

Os oes gennych chi broblem arall cysylltwch â Chelmsford. Os na allwch ddatrys y broblem yn uniongyrchol, gallwch wneud cwyn i Wasanaeth Carchardai a Phrawf EF.

Adroddiadau arolygu

Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gyfer Chelmsford mewn ymateb i arolygiadau annibynnol.

Cysylltu â Chelmsford

Llywodraethwr: Garry Newnes

Ffôn (24 awr): 01245 552 000
Ffacs: 01245 552 001 Gwybodaeth am gost galwadau

Cyfeiriad

HMP/YOI Chelmsford
200 Springfield Road
Chelmsford
Essex
CM2 6LQ

Gweler y map

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 Hydref 2024 + show all updates
  1. Family and friends visits telephone booking line hours updated. Legal and professional visits booking information updated.

  2. New visits booking number and email address added.

  3. Update to secure video calls.

  4. Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes

  5. Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.

  6. Updated visiting information: Reduced visit schedule and testing for visitors aged 12 and over.

  7. Updated visiting information: Testing for visitors aged 12 and over.

  8. Added link to information about testing for physical contact at visits.

  9. Prison moved into National Stage 3 framework and is now preparing to open visits for family, friends and significant others. We will update this page with specific visiting information as soon as possible.

  10. Updated visit info

  11. Updated visiting information in line with new local restriction tiers.

  12. Updated visiting information in line with new local restriction tiers.

  13. Updated visiting information in line with new local restriction tiers.

  14. Updated visiting information in line with new national restrictions in England.

  15. Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.

  16. Updated information to include confirmation of secure video calls being available at this prison.

  17. Added survey link

  18. Prison visits update.

  19. First published.

Print this page