Canllawiau

Amserau agor dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn Nhŷ’r Cwmnïau

Argaeledd ein Canolfan Gyswllt a gwasanaethau ffeilio dros gyfnod yr ŵyl 2024 i 2025.

Gwasanaethau’r un diwrnod

Rhaid i chi wneud cais cyn 12yp ar ddydd Mawrth 24 Rhagfyr os ydych yn defnyddio gwasanaeth o’r un diwrnod i:

  • ffeilio newid enw’r cwmni ar-lein

  • ymgorffori cwmni (meddalwedd yn unig)

Os byddwch yn gwneud cais ar ôl 12yp, efallai na fyddwn yn prosesu eich cais tan ddydd Gwener 27 Rhagfyr.

Lleihau cyfalaf (ffurflen SH19)

Rhaid i chi ffeilio eich datganiad cyfalaf wrth leihau cyfalaf mewn cwmni (SH19) ac unrhyw ddogfennau ategol cyn 11yb ddydd Mawrth 24 Rhagfyr. Rhaid defnyddio’r  gwasanaeth uwchlwytho dogfen i Dŷ’r Cwmnïau i ffeilio’r dogfennau hyn.

Os byddwn yn derbyn eich dogfennau wedi 11yb, efallai na fydd yn cael ei brosesu tan ddydd Gwener 27 Rhagfyr

Copïau ardystiedig o dystysgrifau a dogfennau

I ddefnyddio’r gwasanaeth anfon cyflym, rhaid i chi osod eich archeb cyn 11yb ar ddydd Gwener 20 Rhagfyr i gwrdd â dyddiadau postio’r Post Brenhinol.

Os ydych chi’n archebu ar ôl 11yb, efallai na fydd eich archeb yn cael ei brosesu tan ddydd Gwener 27 Rhagfyr.

Archebu tystysgrifau ardystiedig a dogfennau o Dŷ’r Cwmnïau.

Gwasanaethau ar-lein

Mae gwasanaethau ar-lein Tŷ’r Cwmnïau ar gael drwy gydol cyfnod y Nadolig a’r flwyddyn newydd.

Gallwch ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein i:

Bydd angen cod dilysu eich cwmni. Os oes angen i chi ofyn am god, dylech ganiatáu digon o amser gan ei fod yn cael ei anfon at eich cwmni drwy’r post.

Argaeledd y Ganolfan Gyswllt

Rhif ffôn: 0303 1234 500 

Dyddiad Argaeledd
Dydd Mawrth 24 Rhagfyr Ar agor o 8.30yb hyd 2yp
Dydd Llun 25 Rhagfyr Ar gau
Dydd Iau 26 Rhagfyr Ar gau
Dydd Gwener 27 Rhagfyr Ar agor o 8.30yb hyd 6yp
Dydd Llun 30 Rhagfyr Ar agor o 8.30yb hyd 6yp
Dydd Mawrth 31 Rhagfyr Ar agor o 8.30yb hyd 2yp
Dydd Mercher 1 Ionawr Ar gau
Dydd Iau 2 Ionawr Ar agor o 8.30yb hyd 6yp
(Swyddfa Caeredin ar gau)  
Dydd Gwener 3 Ionawr Ar agor o 8.30yb hyd 6yp

Mynediad ac amseroedd agor Tŷ’r Cwmnïau.

Os oes angen i chi ffeilio eich cyfrifon ar bapur, dylech eu hanfon atom ymhell cyn y dyddiad cau ac ystyried defnyddio danfoniad gwarantedig y diwrnod nesaf.

Ni allwn dderbyn oedi drwy’r post fel rheswm i apelio yn erbyn cosb ffeilio hwyr.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 21 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 Rhagfyr 2024 + show all updates
  1. Timings updated for express dispatch service. To use the express dispatch service, you must place your order before 11am on Friday 20 December to meet Royal Mail posting dates.

  2. Updated Welsh page with availability of our contact centre and filing services over the 2024 to 2025 festive period.

  3. Added contact centre opening times and same day service availability for Christmas and new year 2024 to 2025.

  4. Guidance updated for 2023.

  5. Christmas 2022 opening times updated.

  6. Updated Christmas and New Year opening times for 2021/22.

  7. Updated our Christmas and New Year opening times for 2020/21.

  8. Added translation

Print this page