Cofrestru ymddiriedolaeth fel ymddiriedolwr
Cofrestru’ch ymddiriedolaeth ar-lein os ydych yn ymddiriedolwr.
Pwy ddylai gofrestru
Mae’n rhaid i chi gofrestru ymddiriedolaeth gyda CThEF:
- er mwyn gwneud yn siŵr bod yr ymddiriedolaeth yn cydymffurfio â rheoliadau gwrth-wyngalchu arian
- os oes angen i’r ymddiriedolwyr gael Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) — er enghraifft, er mwyn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer yr ymddiriedolaeth, hyd yn oed os yw’r ymddiriedolaeth ar y rhestr o eithriadau
Mae’n rhaid i chi gofrestru os yw’r ymddiriedolaeth yn agored i un o’r trethi canlynol, neu’n dod yn agored iddynt:
- Treth Enillion Cyfalaf
- Treth Incwm
- Treth Etifeddiant
- Treth Dir y Tollau Stamp
- Treth Tollau Stamp Wrth Gefn
- Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (yn yr Alban)
- Treth Trafodiadau Tir (yng Nghymru)
Mae’n rhaid i’r mathau canlynol o ymddiriedolaethau gofrestru hyd yn oed os nad oes ganddynt unrhyw rwymedigaeth treth:
- yr holl ymddiriedolaethau datganedig yn y DU — oni bai eu bod wedi’u heithrio’n benodol (er enghraifft, ymddiriedolaeth Atodlen 3A)
- ymddiriedolaethau datganedig y tu allan i’r DU, megis ymddiriedolaethau sydd:
- yn caffael tir neu eiddo yn y DU
- ag o leiaf un ymddiriedolwr yn breswyl yn y DU ac sy’n ymrwymo i ‘berthynas fusnes’ yn y DU
Os nad yw’r ymddiriedolaeth yn breswyl yn y DU (ymddiriedolaethau nad ydynt yn breswyl (yn Saesneg)), mae’n rhaid i chi gofrestru’r ymddiriedolaeth os yw’n dod yn agored i dreth ar incwm sy’n dod o’r DU neu ar asedion yn y DU.
Os oes gan yr ymddiriedolaeth rwymedigaeth treth ond bod hyn wedi’i chwmpasu gan ryddhad, bydd angen i chi gofrestru’r ymddiriedolaeth os oes angen i’ch cleient hawlio’r rhyddhad drwy Hunanasesiad.
Gwiriwch a yw’ch ymddiriedolaeth yn Ymddiriedolaeth Atodlen 3A
Does dim angen i chi gofrestru’ch ymddiriedolaeth os yw’n ymddiriedolaeth Atodlen 3A, oni bai bod ganddi rwymedigaeth i drethi yn y DU. Cyfeirir at ymddiriedolaethau Atodlen 3A hefyd fel ‘Ymddiriedolaethau Datganedig Eithriedig’.
Mae’ch ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth Atodlen 3A os yw’n unrhyw un o’r canlynol:
- ymddiriedolaeth statudol yn unol â gorchymyn llys neu’r gyfraith — er enghraifft, ymddiriedolaeth a grëwyd gan lys pan nad yw cwpl yn gallu cytuno ar sut i rannu asedion yn ystod ysgariad
- ymddiriedolaeth sy’n cael ei defnyddio i ddal arian neu asedion cynllun pensiwn cofrestredig yn y DU — megis cynllun pensiwn galwedigaethol
- ymddiriedolaeth sy’n dal polisïau yswiriant bywyd sydd ond yn talu os oes marwolaeth, salwch neu anabledd
- ymddiriedolaeth ar gyfer elusen sydd wedi’i chofrestru yn y DU (neu’n elusen nad oes gofyn iddi gofrestru â’r Comisiwn Elusennau o dan Ddeddf Elusennau 2011)
- ymddiriedolaeth a sefydlwyd i agor cyfrif banc ar gyfer plentyn
- ymddiriedolaeth a sefydlwyd ar adeg farwolaeth sy’n mynd ag asedion o’r ystâd ac sy’n cael ei chau cyn pen dwy flynedd i’r farwolaeth (a elwir hefyd yn ‘ymddiriedolaeth drwy ewyllys’)
- ymddiriedolaeth sy’n dal llai na £100, a oedd wedi’i sefydlu cyn 6 Hydref 2020 (a elwir hefyd yn ‘ymddiriedolaeth beilot’)
- ymddiriedolaeth gydberchnogol a sefydlwyd i ddal cyfrannau o eiddo neu asedion eraill a berchenogir ar y cyd gan 2 neu fwy o bobl fel ‘tenantiaid cydradd’
- ymddiriedolaeth sy’n ymwneud â marchnadoedd ariannol — gan gynnwys y rheiny a grëwyd drwy drefniadau rhagosodedig system ddynodedig neu reolau rhagosodedig corff cydnabyddedig
- ymddiriedolaethau sy’n cael eu creu i ddal arian ar gyfer pobl ar wahân i’r ymddiriedolwr — neu’r rhai sy’n ymwneud â gwasanaethau proffesiynol
- ymddiriedolaeth sy’n dal arian, gwarantau ac asedion eraill ar ran cleient — mae’n rhaid i hyn fod yn gysylltiedig â’r gwaith o gynnal y busnes gan berson perthnasol a oruchwylir
- ymddiriedolaeth sy’n ymwneud â marchnadoedd cyfalaf ac eitemau tebyg
- ymddiriedolaeth a grëwyd i alluogi trafodion masnachol
- ymddiriedolaeth sy’n ymwneud â chofrestru asedion — er enghraifft, ymddiriedolaethau a grëwyd i ddal teitl cyfreithiol ased ar gyfer y person y mae’r trosglwyddiad neu’r gwarediad yn cael ei wneud drosto
- ymddiriedolaeth sy’n ymwneud â gofynion deddfwriaethol — er enghraifft, ymddiriedolaethau a sefydlwyd i ddal eiddo, arian o iawndal ar gyfer anaf personol neu a gafodd ei sefydlu ar gyfer buddiolwr sy’n agored i niwed fel person anabl
- ymddiriedolaeth a sefydlwyd gan y llywodraeth neu awdurdod cyhoeddus arall yn y DU
Mae mathau eraill, llai cyffredin, o ymddiriedolaethau datganedig sydd wedi’u sefydlu at ddibenion penodol hefyd yn cael eu heithrio rhag cofrestru, oni bai bod yn rhaid iddynt gael eu cofrestru oherwydd eu bod yn agored i dalu treth.
Gwiriwch gyda chyfreithiwr, cyfrifydd, ymgynghorydd ariannol neu ymgynghorydd proffesiynol arall os nad ydych yn siŵr a yw cynnyrch neu drefniant:
- yn ymddiriedolaeth
- yn un sydd angen ei gofrestru
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am ymddiriedolaethau sydd ond yn gorfod cofrestru oherwydd rhwymedigaeth i dreth y DU (yn agor tudalen Saesneg) yn llawlyfr CThEF.
Pryd i gofrestru ymddiriedolaethau nad ydynt yn drethadwy
Ymddiriedolaethau nad ydynt yn drethadwy a grëwyd ar neu cyn 6 Hydref 2020
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestriadau oedd 1 Medi 2022 neu cyn hynny.
Ymddiriedolaethau nad ydynt yn drethadwy a grëwyd ar ôl 6 Hydref 2020
Cofrestrwch yr ymddiriedolaeth cyn pen 90 diwrnod ar ôl iddi gael ei chreu neu ddod yn agored i dreth, neu ar neu cyn 1 Medi 2022 (pa un bynnag sydd hwyraf).
Pryd i gofrestru ymddiriedolaethau sydd ond wedi’u cofrestru oherwydd eu bod yn drethadwy
Mae’r dyddiad cau ar gyfer cofrestru yn dibynnu ar y canlynol:
- pan grëwyd yr ymddiriedolaeth
- y dreth y mae’r ymddiriedolaeth yn agored iddi
- a yw’r ymddiriedolaeth wedi bod yn agored i Dreth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf o’r blaen
Pryd i gofrestru ymddiriedolaethau trethadwy sy’n cael eu creu ar neu ar ôl 6 Ebrill 2021
Cofrestrwch eich ymddiriedolaeth cyn pen 90 diwrnod ar ôl i’r ymddiriedolaeth ddod yn agored i dreth, neu ar neu cyn 1 Medi 2022 (pa un bynnag sydd hwyraf).
Pryd i gofrestru ymddiriedolaethau trethadwy a grëwyd cyn 6 Ebrill 2021
Ymddiriedolaethau sy’n agored i Dreth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf am y tro cyntaf
Cofrestrwch yr ymddiriedolaeth ar neu cyn 5 Hydref yn y flwyddyn dreth ar ôl yr un pan fo’r ymddiriedolaeth:
- yn dechrau cael unrhyw incwm, neu pan fo ganddi enillion cyfalaf
- yn dod yn agored i Dreth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf
Er enghraifft, os cafodd yr ymddiriedolaeth rywfaint o log am y tro cyntaf ym mis Mai 2019 (blwyddyn dreth 2019 i 2020) ac fe ddaeth yn agored i Dreth Incwm arno, dylech fod wedi cofrestru’r ymddiriedolaeth ar neu cyn 5 Hydref 2020 (ym mlwyddyn dreth 2020 i 2021).
Ymddiriedolaethau sydd wedi bod yn agored i Dreth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf o’r blaen
Cofrestrwch yr ymddiriedolaeth ar neu cyn 31 Ionawr yn y flwyddyn dreth ar ôl yr un pan fo’r ymddiriedolaeth:
- yn cael unrhyw incwm, neu pan fo ganddi enillion cyfalaf
- yn agored i dreth
Ymddiriedolaethau sy’n agored i drethi eraill
Cofrestrwch yr ymddiriedolaeth ar neu cyn 31 Ionawr yn y flwyddyn dreth ar ôl yr un pan fo gan yr ymddiriedolaeth unrhyw rwymedigaeth treth arall, megis Treth Etifeddiant.
Os na fyddwch yn cofrestru
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb o £5,000 (yn agor tudalen Saesneg) os:
- byddwch yn methu â chofrestru’r ymddiriedolaeth
- na fyddwch yn diweddaru’r gofrestr
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Mae angen yr wybodaeth ganlynol ar gyfer ymddiriedolaethau trethadwy ac ymddiriedolaethau nad ydynt yn drethadwy, ond ar gyfer ymddiriedolaethau trethadwy dylech wirio pa wybodaeth ychwanegol y gallai fod angen i chi ei darparu.
Bydd angen y canlynol arnoch:
- enw’r ymddiriedolaeth
- y dyddiad y cafodd yr ymddiriedolaeth ei chreu
- rhoi gwybod a yw’r ymddiriedolaeth yn ymddiriedolaeth ddatganedig neu beidio
- manylion ynghylch a oes gan ymddiriedolaeth nad yw yn y DU berthynas fusnes yn y DU
- manylion ynghylch unrhyw dir neu eiddo yn y DU y mae’r ymddiriedolaeth wedi’u prynu
Dylech allu dod o hyd i’r manylion hyn yn y weithred ymddiriedolaeth ac ar unrhyw ohebiaeth y mae’r ymddiriedolaeth wedi’i chael gan CThEF.
Prif ymddiriedolwyr
Mae pob ymddiriedolwr yr un mor gyfrifol â’i gilydd, yn gyfreithiol, am yr ymddiriedolaeth, ond mae’n rhaid i chi enwebu un ‘prif’ ymddiriedolwr i fod yn brif bwynt cyswllt gyda CThEF.
Bydd y prif ymddiriedolwr yn cael y canlynol:
- cyfeirnod unigryw y trethdalwr ar gyfer yr ymddiriedolaeth os yw’n cofrestru ymddiriedolaeth drethadwy
- cyfeirnod unigryw os yw’n cofrestru ymddiriedolaeth nad yw’n drethadwy
Bydd angen i chi sicrhau bod ei fanylion cyswllt yn cael eu diweddaru.
Bydd angen i chi roi’r manylion canlynol:
- eich enw
- eich dyddiad geni
- rhif Yswiriant Gwladol a chyfeiriad (os ydyw’n ddinesydd y DU)
- manylion pasbort a chyfeiriad (os nad ydyw’n ddinesydd y DU)
- rhif ffôn
- gwlad breswyl
- gwlad cenedligrwydd
Os yw’r prif ymddiriedolwr yn sefydliad, bydd angen i chi roi’r canlynol:
- enw’r sefydliad
- cyfeirnod unigryw y trethdalwr ar gyfer y sefydliad
- ei gyfeiriad
- rhif ffôn
- cyfeiriad e-bost
- gwlad breswyl
Setlwyr
Mae setlwr yn unigolyn sydd wedi rhoi asedion i mewn i ymddiriedolaeth.
Bydd angen i chi roi’r manylion canlynol amdano:
- enw llawn
- dyddiad geni
- dyddiad marwolaeth
- gwlad breswyl hysbys ddiwethaf
- gwlad cenedligrwydd ddiwethaf
Os cafodd yr ymddiriedolaeth ei chreu gan setlwr byw, byddwn yn gofyn i chi dweud wrthym os oes gan y setlwr alluedd meddyliol wrth iddo gofrestru ymddiriedolaeth.
Unigolion a sefydliadau eraill
Ar gyfer pob unigolyn arall sy’n ymwneud â’r ymddiriedolaeth, gan gynnwys rhagor o ymddiriedolwyr, setlwyr byw, amddiffynyddion a buddiolwyr, dylech roi’r canlynol:
- eich enw
- eich dyddiad geni
- gwlad breswyl
- gwlad cenedligrwydd
- galluedd meddyliol ar yr adeg gofrestru — bydd CThEF yn cymryd bod gan yr unigolyn alluedd meddyliol, oni bai eich bod yn rhoi gwybod i ni fel arall
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am beth mae galluedd meddyliol yn ei olygu mewn perthynas ag ymddiriedolaethau (yn agor tudalen Saesneg) yn llawlyfr CThEF.
Ar gyfer pob sefydliad arall sy’n ymwneud â’r ymddiriedolaeth, bydd angen i chi roi’r canlynol:
- enw’r sefydliad
- cyfeiriad
- gwlad breswyl
Buddiolwyr
Dylech roi manylion pob buddiolwr hysbys a all elwa o’r ymddiriedolaeth. Os oes gennych fwy na 25 o fuddiolwyr sy’n un math arbennig o fuddiolwr, cadwch nodyn o’r buddiolwyr ychwanegol ar gyfer eich cofnodion eich hun.
Buddiolwyr a enwir
Mae’n rhaid i chi roi manylion yr holl unigolion, ymddiriedolaethau, elusennau a sefydliadau a enwir fel buddiolwyr yn y weithred.
Dim ond pan fydd digwyddiad penodol yn digwydd y bydd rhai buddiolwyr a enwir yn elwa, megis pan fydd buddiolwr arall yn marw. Gallwch gynnwys y rhain mewn dosbarth o fuddiolwyr nes bod y digwyddiad yn digwydd. Bryd hynny, dylech roi eu manylion ar y gofrestr fel buddiolwyr a enwir.
Dosbarthiadau o fuddiolwyr
Gallwch ddefnyddio ‘dosbarth’ o fuddiolwyr i ddisgrifio grŵp o unigolion nad ydynt yn hysbys eto, nac wedi’u henwi’n unigol yn y weithred ymddiriedolaeth, er enghraifft, wyrion yn y dyfodol. Gall hyn hefyd gynnwys buddiolwyr posibl a enwir.
Pan fydd aelod o ddosbarth o fuddiolwyr yn elwa o’r ymddiriedolaeth, ac o ganlyniad yn dod yn hysbys, mae’n rhaid i chi roi ei fanylion. Gofynnir i chi roi disgrifiad o bob dosbarth.
Buddiolwyr ymddiriedolaethau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth
Mae hyn yn cael ei ddefnyddio i gofnodi buddiolwyr sy’n rhan o sefydliad, er enghraifft, cyflogeion cwmni.
Bydd angen i chi hefyd roi nifer fras y buddiolwyr yn y grŵp.
Perchnogaeth neu gyfran reolaethol mewn cwmni sydd wedi’i leoli y tu allan i’r UE, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein
Dyma pan fo gan ymddiriedolaeth berchnogaeth, neu gyfran reolaethol, o gwmni sydd wedi’i leoli y tu allan i’r UE, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein.
Bydd angen y canlynol arnoch:
- enw’r cwmni
- cyfeiriad y cwmni
- y wlad y mae ei chyfreithiau’n llywodraethu’r cwmni
- y dyddiad pan gafodd yr ymddiriedolaeth gyfran reolaethol
Yr wybodaeth ychwanegol fydd ei hangen arnoch ar gyfer ymddiriedolaethau trethadwy
Bydd angen y canlynol arnoch:
- y math o ymddiriedolaeth
- manylion ynghylch sut y cafodd ei sefydlu
- cyfeirnod unigryw y trethdalwr ar gyfer yr ymddiriedolaeth, os oes ganddi un
- er mwyn rhoi gwybod a yw’r ymddiriedolaeth wedi’i rhestru fel ymddiriedolaeth Atodlen 3A — yr unig reswm y caiff ymddiriedolaeth yn y sefyllfa hon ei chofrestru yw os oes angen iddi gael cyfeirnod unigryw y trethdalwr i ddatgan rhwymedigaeth treth
Setlwyr sydd wedi marw
Os ydynt ar gael, bydd angen y manylion canlynol arnoch o ran y setlwr:
- ei rif Yswiriant Gwladol (os yw’n ddinesydd y DU)
- ei gyfeiriad
- ei fanylion pasbort a chyfeiriad (os nad ydyw’n ddinesydd y DU)
Unigolion a sefydliadau eraill
Mae’n rhaid i chi hefyd roi un o’r canlynol:
- ei rif Yswiriant Gwladol (os yw’n ddinesydd y DU)
- ei gyfeiriad
- manylion pasbort a chyfeiriad (os nad yw’n ddinesydd y DU)
Cyfranddaliadau
Bydd angen y canlynol arnoch:
- enw’r cwmni y mae’r cyfranddaliadau ynddo
- nifer y cyfranddaliadau
- dosbarth a math o gyfranddaliadau
- amcangyfrif o werth y cyfranddaliadau pan fyddwch yn cofrestru’r ymddiriedolaeth
Partneriaeth
Bydd angen yr wybodaeth ganlynol am y bartneriaeth arnoch:
- disgrifiad
- dyddiad dechrau
Busnes
Bydd angen y canlynol arnoch:
- enw’r busnes
- disgrifiad o’r busnes
- cyfeiriad y busnes
- amcangyfrif o werth y busnes pan fyddwch yn cofrestru’r ymddiriedolaeth
Eiddo a thir
Bydd angen y canlynol arnoch:
- cyfeiriad, enw neu ddisgrifiad o’r eiddo neu’r tir
- amcangyfrif o werth llawn yr eiddo neu’r tir ar adeg cofrestru’r ymddiriedolaeth
- amcangyfrif o werth y gyfran o dir neu eiddo a ddelir gan ymddiriedolaeth os nad yw’n berchen ar y cyfan
Arian
Bydd angen cyfanswm yr arian yn yr ymddiriedolaeth arnoch.
Asedion eraill (megis ceir, gemwaith neu gelf)
Bydd angen y canlynol arnoch:
- disgrifiad o’r ased
- gwerth yr ased pan fyddwch yn cofrestru’r ymddiriedolaeth
Sut i gofrestru
Cyn y gallwch gofrestru ymddiriedolaeth fel ymddiriedolwr, mae angen i chi gael Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth.
Mae hyn yn wahanol i Ddynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth ar gyfer Unigolyn. Ni allwch ddefnyddio Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth ar gyfer Unigolyn i gofrestru ymddiriedolaeth.
Bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth ar gyfer Sefydliad gwahanol ar gyfer pob ymddiriedolaeth rydych yn gyfrifol amdani — gallwch greu un pan fyddwch yn cofrestru. Dewiswch ‘Sefydliad’ ar y sgrin sy’n cael ei dangos ar ôl i chi greu eich cyfrinair.
Bydd angen y canlynol arnoch:
- cyfeiriad e-bost (bydd hyn yn gysylltiedig â’r cyfrif Porth y Llywodraeth ar gyfer yr ymddiriedolaeth)
- eich enw llawn
- rhif ffôn llinell dir neu rif ffôn symudol
Gall gwasanaethau CThEF fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes problemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn Saesneg).
Rhoi gwybod y gallai perchnogion llesiannol fod mewn perygl anghymesur o niwed
Gall CThEF rannu gwybodaeth sy’n cael ei chadw gan y Gwasanaeth Cofrestru Ymddiriedolaethau â thrydydd parti o dan amgylchiadau cyfyngedig. Bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu dim ond os yw un o’r canlynol yn wir:
- bod unigolion yn gallu dangos eu bod yn ymchwilio i achos penodol o wyngalchu arian neu ariannu terfysgaeth mewn perthynas ag ymddiriedolaeth benodol
- mae gan ymddiriedolaeth gyfran reolaethol mewn cwmnïau alltraeth
Mae’r wybodaeth yn cynnwys manylion canlynol y perchennog llesiannol:
- enw llawn
- mis a blwyddyn geni
- cenedligrwydd
- gwlad breswyl
- buddiant llesiannol yn yr ymddiriedolaeth
Ni fydd CThEF yn rhannu gwybodaeth am unigolion penodol, os byddai hynny’n arwain at risg anghymesur o’r canlynol:
- twyll
- herwgipiad
- blacmel
- cribddeiliaeth
- aflonyddu
- trais
- bygythiad
Os byddwch yn dod yn ymwybodol o’r posibilrwydd bod un neu fwy o berchnogion llesiannol yr ymddiriedolaeth yn agored i risg anghymesur o niwed petai eu gwybodaeth yn cael ei rhyddhau, rhowch wybod i CThEF ar bapur.
Anfonwch e-bost â’r llinell pwnc ‘Perchennog llesiannol mewn perygl o niwed/Beneficial owners at risk of harm’, i: [email protected]. Dylech gynnwys:
- cyfeirnod unigryw y trethdalwr, neu’r cyfeirnod unigryw, ar gyfer yr ymddiriedolaeth
- enw’r ymddiriedolaeth
- enw’r prif ymddiriedolwr
- y perchnogion llesiannol sy’n agored i risg o niwed
- risg benodol o niwed
- yr holl resymau pam fod y perchennog buddiol mewn perygl o’r niwed penodedig
- yr holl resymau dros gredu y byddai datgelu ei wybodaeth ymddiriedolaeth yn ei wneud yn agored i risg anghymesur o niwed
- hyd yr amser rydych yn credu y bydd y risg hon yn parhau
Y perchennog sy’n gyfrifol am dderbyn y risg o anfon yr e-bost hwn, ac ni fydd CThEF yn atebol os yw’r wybodaeth honno’n cael ei rhyngipio. Bydd y mewnflwch hwn dim ond yn derbyn gwybodaeth sy’n adrodd am risg o niwed.
Sut y bydd CThEF yn ymateb i adroddiadau ynghylch risg anghymesur o niwed
Nid yw adrodd am risg o niwed yn gwarantu y bydd yr eithriad yn cael ei roi ar waith. Dim ond os byddai rhyddhau gwybodaeth am ymddiriedolaeth y perchennog llesiannol yn ei wneud yn agored i risg anghymesur o niwed — a hynny ar yr adeg pan fo cais am ddata ymddiriedolaeth wedi dod i law ac yn derbyn sylw — y mae’r eithriad yn berthnasol.
Pan ddaw hysbysiad risg o niwed i law, bydd CThEF yn adolygu’r wybodaeth a roddwyd ac yn ymateb i’r ymddiriedolwyr yn ysgrifenedig. Bydd yr ymateb yn nodi p’un a fydd CThEF yn rhoi’r hysbysiad o risg i niwed ar waith neu beidio. Os bydd yn cael ei roi ar waith, bydd CThEF yn eithrio’r wybodaeth o’r rhyddhad os bydd cais data ymddiriedolaeth yn dod i law ar gyfer yr ymddiriedolaeth honno. Bydd y sicrwydd hwn yn berthnasol am 12 mis o’r dyddiad y daw’r hysbysiad i law.
Dylech anfon ceisiadau pellach am eithriad o ran y risg i niwed yn flynyddol os ydych yn credu bod y risg o niwed yn parhau i fod yn berthnasol. Dylech anfon eich cais rhwng 11 a 12 mis o’r dyddiad y gwnaethoch anfon eich cais blaenorol.
Ar ôl i chi gofrestru
Os ydych yn cofrestru ymddiriedolaeth sy’n agored i dreth, bydd CThEF yn anfon cyfeirnod unigryw y trethdalwr at y prif ymddiriedolwr, fel arfer cyn pen 15 diwrnod gwaith. Bydd angen cyfeirnod unigryw y trethdalwr arnoch i ddechrau cyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad.
Os nad yw’r ymddiriedolaeth yn agored i dalu treth, bydd CThEF yn anfon cyfeirnod unigryw at y prif ymddiriedolwr, fel arfer cyn pen 15 diwrnod gwaith.
Bwrw golwg dros y manylion cofrestru neu wneud newidiadau iddynt
Dechrau perthnasau busnes newydd
Os yw ymddiriedolaeth eich cleient am ddechrau perthynas busnes newydd gyda sefydliad rydym yn ei ddiffinio fel person perthnasol, bydd rhaid i’ch cleient roi copi diweddar o’i ddogfen tystiolaeth o gofrestru i’r sefydliad.
Gallwch lawrlwytho copi PDF o’r ddogfen yn y gwasanaeth ar-lein drwy ddewis ‘Cael tystiolaeth o gofrestriad yr ymddiriedolaeth’.
Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â beth yw person perthnasol, a beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn darparu dogfen tystiolaeth o gofrestru iddo, yn yr arweiniad ar roi gwybod i CThEF am anghysondeb o ran ymddiriedolaeth.
Rhannu gwybodaeth am ymddiriedolaeth eich cleient
Efallai y byddwn yn rhannu manylion am ymddiriedolaeth eich cleient os bydd rhywun yn cyflwyno cais am ddata ymddiriedolaeth i ni a’i fod yn bodloni gofynion y Rheoliadau Gwyngalchu Arian.
Dysgwch sut i ofyn i CThEF am wybodaeth am ymddiriedolaeth i gael gwybod:
- gyda phwy y byddwn yn rhannu gwybodaeth
- pa wybodaeth y byddwn yn ei rhannu
- pryd y byddwn yn ei rhannu
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 19 Mai 2020Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 Rhagfyr 2023 + show all updates
-
References to registering a trust on time have been removed.
-
How HMRC will respond to reports of disproportionate risk of harm has been added.
-
A link to guidance about penalty charges for not registering or maintaining a trust has been added to the 'If you do not register on time' section.
-
Guidance on how to check if your trust is a schedule 3A trust has been added.
-
The 'After you've registered' section has been updated with information on what you need to do if you start a new business relationship with an organisation and when HMRC will share information about your trust.
-
We have updated the guidance on penalties due to late registration or failure to register.
-
The 'How to register' section has been updated to make it clear you must use an Organisation Government Gateway user ID to register a trust.
-
Information on how to report that beneficial owners may be at a disproportionate risk of harm has been added.
-
Guidance has been added about the information you need to register a trust if the settlor is deceased.
-
The section 'when to register' has been updated, as you may now receive a notification letter reminding you to register a trust if you do not register on time.
-
The section on 'further considerations for trusts that are only required to register because of a liability to UK tax' has been removed and a link has been added to more detailed information.
-
The 'Who should register' section has been updated.
-
Information about the registration deadline for taxable and non-taxable trusts has been added.
-
Added translation
-
We've updated the page with further guidance for both taxable and non-taxable trusts.
-
Sections about what you'll need to register a trust and employment trust beneficiaries have been updated.
-
Update to sections 'Beneficiaries' about the number of beneficiaries and 'Viewing or making changes to registration details' about authorising an agent.
-
Information about how to authorise an agent to view or make changes to registration details for you has been updated.
-
First published.