Cofrestri ar gyfer negeseuon atgoffa trwy e-bost o Dŷ’r Cwmnïau
Sut i gofrestru ar gyfer ein gwasanaeth atgoffa trwy e-bost sy'n dweud wrthych pryd y disgwylir cyfrifon a datganiadau cadarnhau eich cwmni.
Manteision o gael eich atgoffa trwy e-bost
Mae ein gwasanaeth atgoffa trwy e-bost yn dweud wrthych pryd ydym yn disgwyl eich cyfrifon a datganiadau cadarnhau eich cwmni drwy anfon e-bost atoch.
Mae’r gwasanaeth am ddim, a gallwch:
- ddewis hyd at 4 o bobl i dderbyn e-bost atgoffa (gan gynnwys asiant)
- ffeilio’ch dogfen yn syth trwy ddefnyddio dolen yn y neges e-bost
- derbyn negeseuon atgoffa yn fwy cyfleus
- osgoi cosbau ffeilio’n hwyr drwy ffeilio eich cyfrifon yn brydlon
- defnyddio llai o bapur, gan gyfrannu at achub yr amgylchedd
Nid ydym bellach yn anfon nodiadau atgoffa papur drwy’r post. Mae dadansoddiad yn dangos bod nodiadau atgoffa trwy e-bost yn fwy llwyddiannus na rhai papur.
Sut i gofrestru ar gyfer negeseuon atgoffa trwy e-bost
-
Mewngofnodi i wasanaeth ffeilio ar-lein Tŷ’r Cwmnïau.
-
Dewis ‘Actifadu e-atgoffa’ o’ch sgrin drosolwg cwmni.
-
Dewiswch ‘Ychwanegu cyfeiriad e-bost’.
-
Cofnodwch eich cyfeiriad e-bost (hyd at 4 i bob cwmni).
-
Dilynwch y ddolen yn y neges e-bost o Dŷ’r Cwmnïau i ddilysu’ch cyfeiriad e-bost.
Anfonir neges e-bost atoch pan fyddwch wedi ymuno â’r gwasanaeth e-atgoffa’n llwyddiannus.
Mae’n rhaid cofrestri i ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein cyn gallu derbyn negeseuon atgoffa trwy e-bost.
Cofrestru nifer o gwmnïau ar gyfer negeseuon atgoffa trwy e-bost
Gallwch gofrestru nifer o gwmnïau ar yr un pryd.
-
Paratowch daenlen wedi’i gwarchod â chyfrinair gydag isafswm o 15 o rifau cwmni a chodau dilysu cysylltiedig.
-
E-bostiwch eich taenlen at [email protected]
-
Mewn e-bost ar wahân o’r un cyfeiriad, cadarnhewch gyfrinair y daenlen a un cyfeiriad e-bost lle byddwn yn anfon y negeseuon atgoffa atoch.
Dim ond un cyfeiriad e-bost y gallwch ei neilltuo wrth gofrestru ar gyfer nifer o gwmnïau.Gallwch newid cyfeiriad e-bost, neu ychwanegu cyfeiriadau e-bost ychwanegol gan ddefnyddio ein gwasanaeth ffeilio ar-lein (uchafswm o 4 ar gyfer pob cwmni).
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 16 Gorffennaf 2020Diweddarwyd ddiwethaf ar 9 Mehefin 2021 + show all updates
-
Added translation
-
First published.