Gwneud cais am sicrwydd ymlaen llaw ar hawliad am ryddhad treth Ymchwil a Datblygu
Os ydych yn fenter bach a chanolig, gallwch ofyn i CThEF a fydd eich hawliad cyntaf am ryddhad Treth Gorfforaeth o ran Ymchwil a Datblygu’n cael ei dderbyn.
Mae’n bosibl y bydd camau eraill y mae’n rhaid i chi eu cwblhau cyn gwneud cais am sicrwydd ymlaen llaw. Gwiriwch y camau y mae angen i chi eu cymryd i hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu’n gywir.
Beth yw sicrwydd ymlaen llaw
Cynllun gwirfoddol yw sicrwydd ymlaen llaw. Mae’n eich galluogi i anfon manylion ynghylch gwariant Ymchwil a Datblygu eich cwmni cyn hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu ar Ffurflen Dreth y Cwmni.
Byddwn yn gwirio manylion eich cais ac, os byddwn yn cytuno bod y rhyddhad hwn yn berthnasol i chi, fyddwn yn cadarnhau y bydd yr hawliad yn cael ei dderbyn cyhyd â’i fod yn unol â’r hyn a drafodwyd ac a gytunwyd yn eich cais. Yr enw ar hyn yw ‘cytundeb sicrwydd ymlaen llaw’.
Dim ond eich 3 chyfnod cyfrifyddu cyntaf y bydd y cytundeb sicrwydd ymlaen llaw yn eu cwmpasu.
Nid yw cytundeb sicrwydd ymlaen llaw yn golygu’ch bod wedi hawlio’r rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu. Mae’n dal i fod yn rhaid i chi ei hawlio gan ddefnyddio Ffurflen Dreth y Cwmni.
Pwy all wneud cais
Gallwch wneud cais am sicrwydd ymlaen llaw os ydych yn fenter bach a chanolig (MBaCh) a bod y canlynol yn berthnasol:
- dyma’ch tro cyntaf yn hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu
- mae gan eich cwmni drosiant o dan £2 miliwn, a llai na 50 o gyflogeion
- rydych yn bwriadu cynnal gwaith Ymchwil a Datblygu
- rydych eisoes wedi cynnal gwaith Ymchwil a Datblygu a heb hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu hyd yn hyn
- rydych yn rhan o grŵp, ac nid oes yr un cwmni sy’n gysylltiedig â chi wedi hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu o’r blaen
Pwy all lenwi’r cais
Gallwch lenwi’r cais eich hun, neu gall eich asiant wneud hynny ar eich rhan.
Pwy na all wneud cais
Ni allwch wneud cais os ydych:
- yn gwmni mawr
- wedi ymrwymo i Gynllun Arbed Treth y dylid ei Ddatgelu (DOTAS)
- yn ddiffygdalwr corfforaethol difrifol (yn agor tudalen Saesneg) — byddwch yn cael llythyr oddi wrth CThEF ynghylch hyn os yw’n berthnasol i chi
Pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch
I wneud cais am sicrwydd ymlaen llaw, bydd angen y canlynol arnoch:
- cyfrifon eich cwmni
- dogfennau cofrestru eich cwmni gan Dŷ’r Cwmnïau
- unrhyw ohebiaeth gan CThEF sy’n ymwneud â’ch cais i gael sicrwydd ymlaen llaw
- Ffurflenni Treth blaenorol y cwmni (does dim angen y rhain ar gyfer cwmnïau newydd)
- enw’r prif gyswllt, er enghraifft rheolwr ymchwil neu gyfarwyddwr y cwmni, sydd â gwybodaeth uniongyrchol am waith Ymchwil a Datblygu’r cwmni, er mwyn trafod y cais â CThEF
- rhywfaint o wybodaeth sylfaenol am eich cwmni
- gwybodaeth fanwl am weithgarwch Ymchwil a Datblygu’ch cwmni — gan gynnwys esbonio’r ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol sy’n codi a sut y gwnaethoch geisio eu datrys
- gwybodaeth am y costau sy’n gysylltiedig â’ch gweithgarwch Ymchwil a Datblygu
Gwneud cais ar-lein
Bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth (os nad oes gennych ID Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi am y tro cyntaf).
Os na allwch wneud cais ar-lein
Os nad oes modd i chi wneud cais ar-lein, gallwch argraffu’r ffurflen a’i hanfon drwy’r post at CThEF. Mae yna ddwy ffordd o wneud hyn:
- drwy lenwi’r ffurflen ar-lein a’i hargraffu
- anfonwch e-bost at CThEF i ofyn am gael y ffurflen hon yn Gymraeg
Ni allwch ddefnyddio’r ffurflenni hyn i hawlio rhyddhad treth nac i wneud newidiadau i hawliad am ryddhad treth sy’n bodoli eisoes.
Llenwi’r ffurflen ar-lein a’i hargraffu
-
Gan nad oes modd i chi gadw’ch cynnydd wrth lenwi’r ffurflen, casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau.
-
Llenwch y ffurflen gais CT R&D (AA) am sicrwydd ymlaen llaw.
-
Argraffwch y ffurflen a’i hanfon drwy’r post at CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar eich cyfer os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol (megis darllenydd sgrin). Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, e-bostiwch [email protected] a rhowch wybod i ni ba fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio. Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF (yn agor tudalen Saesneg).
Os na fydd y ffurflen yn agor, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Ar ôl i chi wneud cais
Bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost i drefnu galwad ffôn gyda’ch cwmni, fel y gallwn drafod eich gwaith Ymchwil a Datblygu yn fwy manwl. Fel arfer galwad ffôn fer yw hon, ond gallai arwain at drafodaeth fwy manwl neu ymweliad â’ch cwmni os yw’r achos yn fwy cymhleth.
Yna, byddwn yn anfon llythyr atoch yn rhoi gwybod i chi a oedd eich cais am sicrwydd ymlaen llaw yn llwyddiannus ai peidio.
Os ydych yn cael sicrwydd ymlaen llaw
Byddwn yn anfon llythyr atoch yn egluro cyfrifoldebau eich cwmni a beth fydd yn digwydd os bydd eich gweithgarwch Ymchwil a Datblygu yn newid.
Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi ar ôl i chi gyflwyno’ch hawliad cyntaf ar Ffurflen Dreth y Cwmni, a hynny er mwyn gwirio ei fod yn cyfateb i’r manylion yn eich cais am sicrwydd ymlaen llaw.
Os nad ydych yn cael sicrwydd ymlaen llaw
Byddwn yn anfon llythyr atoch yn nodi’r rhesymau pam. Ni fyddwch yn gallu apelio’r penderfyniad hwn nac ailgyflwyno cais am sicrwydd ymlaen llaw. Os ydych o’r farn bod rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu yn dal i fod yn ddyledus i chi, gallwch gyflwyno hawliad yn Ffurflen Dreth y Cwmni.
Yr hyn y mae angen i chi ei wneud nesaf
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF eich bod am hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu cyn i chi ei hawlio ar Ffurflen Dreth y Cwmni, a hynny drwy lenwi ffurflen ar gyfer rhoi gwybod i CThEF am eich hawliad. Os ydych wedi gwneud cais am sicrwydd ymlaen llaw, mae’n dal i fod angen i chi lenwi’r ffurflen hon.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 30 Tachwedd 2015Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 Gorffennaf 2023 + show all updates
-
The information about when your application will be accepted and how long it will be valid for has been clarified. The sections 'When you can apply', ‘When you cannot apply’ and 'What you will need' have been updated. The 'How to apply' section now includes the application form and how to complete it. The mandatory date of ‘1 August 2023’ to submit an additional information form has been changed to ‘8 August 2023’ in ‘Before you claim R&D tax relief’, step 2.
-
More information has been added about what you will need to apply for advance assurance and what happens after you’ve applied. A new section has been added to tell you what you need to do before you claim R&D tax relief for accounting periods beginning on or after 1 April 2023 and for claims from 1 August 2023.
-
The overview on Advance Assurance webinar has been removed.
-
A new pre-recorded webinar giving an overview on Advance Assurance has been added to this page.
-
First published.