Canllawiau

Gwirio a allwch hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu

Dysgwch beth yw rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu ac a yw eich prosiect yn gymwys ar gyfer rhyddhad Treth Gorfforaeth.

Beth yw rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu 

Mae rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu yn rhoi cymorth i gwmnïau sy’n gweithio ar brosiectau arloesol ym meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg.  Er mwyn bod yn gymwys i gael rhyddhad Ymchwil a Datblygu, mae’n rhaid i brosiect geisio sicrhau cynnydd ym maes gwybodaeth neu dechnoleg. 

Dim ond cwmnïau sy’n agored i Dreth Gorfforaeth y DU all fod yn gymwys i gael y rhyddhad hwn.

Beth yw maes gwyddoniaeth neu dechnoleg  

Gwyddoniaeth yw’r astudiaeth systematig o natur ac ymddygiad y bydysawd ffisegol a materol. 

O 1 Ebrill 2023 ymlaen, gellir trin cynnydd mathemategol fel cynnydd ym maes gwyddoniaeth at y dibenion hyn — a hynny p’un a yw’n gynnydd o ran natur ac ymddygiad y bydysawd ffisegol a materol, neu beidio. 

Technoleg yw rhoi egwyddorion neu wybodaeth wyddonol ar waith mewn ffordd ymarferol.  

Efallai y bydd cynnydd mewn gwybodaeth neu allu cyffredinol ym maes gwyddoniaeth neu dechnoleg yn arwain at y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • canlyniadau corfforol

  • cynnydd mewn gwybodaeth gyffredinol

Gall cynnydd mewn gwybodaeth neu allu o ran gwyddoniaeth neu dechnoleg arwain at ganlyniadau corfforol, neu gall fod yn gynnydd mewn gwybodaeth gyffredinol. Yn y naill achos, byddai gweithiwr proffesiynol cymwys sy’n gweithio yn y maes hwnnw yn cydnabod y datblygiad fel gwelliant sylweddol.

Mae gwelliant sylweddol yn golygu newid neu addasu nodweddion gwyddonol neu dechnolegol rhywbeth i’r pwynt lle mae ‘yn well’ na’r un gwreiddiol.

Gall y gwelliannau gynnwys y canlynol: 

  • creu proses, deunydd, dyfais, cynnyrch neu wasanaeth sy’n cynyddu’r wybodaeth neu’r gallu cyffredinol mewn maes gwyddoniaeth neu dechnoleg 

  • gwelliant sylweddol o ran proses, deunydd, dyfais, cynnyrch neu wasanaeth sy’n bodoli eisoes — er enghraifft, i arbed costau neu i greu llai o wastraff (mae hyn yn cyfeirio at welliannau sylweddol iawn, y tu hwnt i uwchraddio cyffredin) 

  • defnyddio gwyddoniaeth neu dechnoleg i gopïo effaith proses, deunydd, dyfais, cynnyrch neu wasanaeth presennol mewn ffordd newydd neu ffordd sy’n well

Cynnydd yn y maes 

Mae’n rhaid i’ch prosiect anelu at greu cynnydd yn y maes yn gyffredinol, nid yn unig ar gyfer eich busnes.  

Gall y broses, y cynnyrch neu’r gwasanaeth fod yn gynnydd hyd yn oed os mai cwmni arall sy’n gyfrifol am y cam ymlaen, ond nid yw’n hysbys nac ar gael i’r cyhoedd.  

Ni allwch hawlio os yw’r cynnydd a geisir yn y meysydd canlynol: 

  • y celfyddydau 

  • dyniaethau 

  • gwyddorau cymdeithasol, gan gynnwys economeg

Pa brosiectau sy’n gymwys i gael y rhyddhad 

Er mwyn bod yn gymwys i gael rhyddhad Ymchwil a Datblygu, mae’n rhaid i brosiect geisio sicrhau cynnydd ym maes gwybodaeth neu dechnoleg drwy ddatrys ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol. 

Ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol 

Mae ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol yn bodoli pan na all arbenigwr ar y pwnc ddangos os yw rhywbeth yn dechnolegol bosibl, neu sut y gellir ei wneud, hyd yn oed ar ôl cyfeirio at yr holl dystiolaeth sydd ar gael.  

Mae hyn yn golygu na all eich cwmni neu arbenigwyr yn y maes wybod yn barod am y cynnydd neu’r ffordd i’w ddatrys.

Egluro sut y gwnaethoch geisio datrys yr ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol 

Mae angen i chi allu esbonio’r gwaith a wnaethoch i ddatrys yr ansicrwydd. Gall hyn fod yn ddisgrifiad syml o’r llwyddiannau a’r methiannau y cawsoch yn ystod y prosiect. Dangoswch nad oedd gweithiwr proffesiynol yn y maes yn gallu ei ddatrys. Dylech esbonio pam nad oedd gweithiwr proffesiynol yn y maes yn gallu datrys eich cynnydd yn hawdd. Gallwch wneud hyn drwy ddangos bod ymdrechion eraill i ddatrys y sefyllfa wedi methu. 

Gallwch hefyd ddangos bod y bobl sy’n gweithio ar eich prosiect yn weithwyr proffesiynol yn y maes hwnnw, a’u cael nhw i egluro’r ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol sy’n gysylltiedig â’r prosiect. 

Os nad ydych yn siŵr a yw eich prosiect yn gymwys ar gyfer rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu, ewch ati i wirio’r canlynol: 

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud nesaf  

Ar ôl i chi wirio beth yw Ymchwil a Datblygu a bod eich prosiect yn gymwys, gwiriwch pa gostau Ymchwil a Datblygu y gallwch eu hawlio.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Ionawr 2007
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 Mai 2024 + show all updates
  1. Added translation

  2. Information on types of Research and Development (R&D) tax reliefs for accounting periods beginning before 1 April 2024, and on or after 1 April 2024 have been updated.

  3. Added a link to what work qualifies as R&D for tax purposes.

  4. The information about when you must submit an additional information form has been updated from '1 August 2023' to '8 August 2023', and the text regarding voluntary submission of the additional information form before the mandatory date has been removed in step 2 of section 'Before you claim'.

  5. Updates have been made throughout this guidance to clarify what R&D tax reliefs are and the projects that count as R&D. A new section has been added to tell you what you need to do before you claim R&D tax relief for accounting periods beginning on or after 1 April 2023 and for claims from 1 August 2023.

  6. Updated to show the Research and Development Expenditure Credit will increase to 13% of qualifying research and development expenditure from 1 April 2020.

  7. The guidance has been updated to show new rates for 2018.

  8. The guidance has been updated to show who can make an amended claim to tax relief for reimbursed expense, and how to make a claim.

  9. The link free pre-recorded webinar in Further information section has been updated.

  10. A new pre-recorded webinar for R&D Advance Assurance has been added to this page.

  11. A new pre-recorded webinar giving an overview on Advance Assurance has been added to this page.

  12. This guide has been shortened to give overall guidance to R&D tax relief. Two new guides have been published in addition to give R&D more specific R&D guidance. One is for large company guidance and the other for small to medium enterprises.

  13. This guidance has been updated to include information about R&D Advance Assurance.

  14. First published.

Print this page