Treuliau symlach os ydych yn hunangyflogedig

Sgipio cynnwys

Byw yn eich safle busnes

Mae nifer fach o fusnesau yn defnyddio eu safle busnes fel eu cartref, er enghraifft gwesty, gwely a brecwast neu gartref gofal bychan.

Gallwch ddefnyddio treuliau symlach yn hytrach na chyfrifo’r rhaniad rhwng yr hyn yr ydych yn ei wario ar eich defnydd preifat a’ch defnydd busnes o’r safle.

Gyda threuliau symlach, rydych yn cyfrifo cyfanswm y treuliau ar gyfer y safle.

Yna rydych yn defnyddio’r cyfraddau unffurf i ddidynnu swm sydd at eich defnydd personol o’r safle, yn seiliedig ar nifer y bobl sy’n byw ar y safle a hawlio’r gweddill fel treuliau eich busnes.

Nifer y bobl Cyfradd unffurf y mis
1 £350
2 £500
3+ £650

Enghraifft 

Rydych chi a’ch partner yn rhedeg gwely a brecwast ac yn byw yno trwy gydol y flwyddyn. Cyfanswm eich treuliau safle busnes yw £15,000. 

Cyfrifiad:

Cyfradd unffurf: 12 mis x £500 y mis = £6,000

Gallwch hawlio:

£15,000 - £6,000 = £9,000  

Os yw rhywun yn byw yn eich safle busnes am ran o’r flwyddyn, dim ond am y misoedd y mae’n byw yno y gallwch ddidynnu’r gyfradd unffurf berthnasol.

Enghraifft  

Rydych chi a’ch partner yn rhedeg gwely a brecwast ac yn byw yno trwy gydol y flwyddyn. Mae eich plentyn yn y brifysgol am 9 mis y flwyddyn ond mae’n dod yn ôl i fyw gartref am 3 mis yn ystod yr haf.

Cyfrifiad:

Cyfradd unffurf: 9 mis x £500 y mis = £4,500 

Cyfradd unffurf: 3 mis x £650 y mis = £1,950  

Cyfanswm = £6,450  

Gallwch hawlio:  

£15,000 - £6,450 = £8,550  

Defnyddiwch y gwiriwr treuliau symlach (yn agor tudalen Saesneg) i gymharu’r hyn y gallwch ei hawlio wrth ddefnyddio treuliau symlach gyda’r hyn y gallwch ei hawlio drwy gyfrifo’r costau gwirioneddol.