Treuliau symlach os ydych yn hunangyflogedig

Sgipio cynnwys

Gweithio gartref

Cyfrifwch eich treuliau caniataol gan ddefnyddio cyfradd unffurf yn seiliedig ar yr oriau rydych yn gweithio o’ch cartref bob mis.

Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi gyfrifo cyfran y defnydd personol a’r defnydd busnes ar gyfer eich cartref, er enghraifft faint o’ch biliau cyfleustodau sydd ar gyfer busnes.

Nid yw’r gyfradd unffurf yn cynnwys costau ffôn neu gostau rhyngrwyd. Gallwch hawlio cyfran y busnes o’r biliau hyn (yn agor tudalen Saesneg) drwy gyfrifo’r costau gwirioneddol.

Gallwch ddefnyddio treuliau symlach dim ond os ydych yn gweithio 25 awr neu fwy’r mis o gartref.

Oriau o ddefnydd busnes y mis Cyfradd unffurf y mis
25 i 50 £10
51 i 100 £18
101 a mwy £26

Enghraifft 

Gwnaethoch weithio 40 awr o’ch cartref am 10 mis, ond gwnaethoch weithio 60 awr yn ystod 2 fis penodol:

10 mis x £10 = £100 

2 mis x £18 = £36

Cyfanswm y gallwch ei hawlio = £136

Defnyddiwch y gwiriwr treuliau symlach (yn agor tudalen Saesneg) i gymharu’r hyn y gallwch ei hawlio wrth ddefnyddio treuliau symlach gyda’r hyn y gallwch ei hawlio drwy gyfrifo’r costau gwirioneddol.