Treuliau symlach os ydych yn hunangyflogedig

Sgipio cynnwys

Cerbydau

Cyfrifwch eich treuliau cerbyd gan ddefnyddio cyfradd unffurf ar gyfer milltiroedd yn hytrach na chostau gwirioneddol prynu a rhedeg eich cerbyd, er enghraifft yswiriant, atgyweiriadau, gwasanaethu, tanwydd.

Gallwch ddefnyddio treuliau syml ar gyfer:

  • ceir (ar wahân i’r rhai hynny sydd wedi’u cynllunio ar gyfer defnydd masnachol, er enghraifft, cabiau du, cerbydau hacni neu geir hyfforddwyr gyrru sydd â rheolaeth ddeuol)
  • cerbydau nwyddau (er enghraifft, faniau)
  • beiciau modur

Ni allwch hawlio treuliau symlach ar gyfer cerbyd rydych eisoes wedi hawlio lwfansau cyfalaf ar ei gyfer, neu rydych wedi’i gynnwys fel cost pan gyfrifoch eich elw busnes.

Cerbyd Cyfradd unffurf y filltir gyda threuliau symlach
Ceir a cherbydau nwyddau, y 10,000 milltir gyntaf 45c
Ceir a cherbydau nwyddau, ar ôl 10,000 milltir 25c
Beiciau modur 24c

Enghraifft 

Rydych wedi gyrru 11,000 o filltiroedd busnes dros y flwyddyn.

Cyfrifiad:

10,000 o filltiroedd x 45c = £4,500 

1,000 o filltiroedd x 25c = £250 

Cyfanswm y gallwch ei hawlio = £4,750

Nid oes rhaid i chi ddefnyddio cyfraddau unffurf ar gyfer eich cerbydau i gyd. Unwaith y byddwch yn defnyddio’r cyfraddau unffurf ar gyfer cerbyd, rhaid i chi barhau i wneud hynny cyn belled â’ch bod yn defnyddio’r cerbyd hwnnw ar gyfer eich busnes.

Gallwch hawlio’r holl gostau teithio eraill (yn agor tudalen Saesneg) (er enghraifft teithiau trên) a pharcio ar ben treuliau eich cerbyd.

Defnyddiwch y gwiriwr treuliau symlach (yn agor tudalen Saesneg) i gymharu’r hyn y gallwch ei hawlio wrth ddefnyddio treuliau symlach gyda’r hyn y gallwch ei hawlio drwy gyfrifo’r costau gwirioneddol.