Adnabod galwadau ffôn, e-byst a negeseuon testun sy’n sgamio
Defnyddio rhestr wirio er mwyn penderfynu a yw galwad ffôn, neges destun (SMS) neu e-bost amheus yn sgam yn hytrach na gohebiaeth ddilys.
Gwirio’r hyn y dylech chwilio amdano gyntaf
Defnyddiwch y rhestr wirio ganlynol er mwyn penderfynu a yw’r ohebiaeth yr ydych wedi’i chael yn sgam. Gallwch ddefnyddio’r rhestr ar gyfer galwadau ffôn, e-byst a negeseuon testun.
Gall yr ohebiaeth fod yn sgam os yw’n:
- eich rhuthro
- fygythiol
- annisgwyl
- gofyn am wybodaeth bersonol megis manylion banc
- gofyn i chi drosglwyddo arian
- cynnig ad-daliad, ad-daliad treth neu grant
Am ragor o help, gweler enghreifftiau o e-byst gwe-rwydo a gohebiaeth ffug sy’n honni cysylltiad â CThEF.
Gwiriwch ein rhestr o ohebiaeth ddilys ac ymgyrchoedd dilys CThEF i’ch helpu i benderfynu a yw’r hyn yr ydych wedi’i gael yn ddilys.
Pethau eraill i fod yn wyliadwrus ohonynt
Galwadau ffôn amheus
Ni fydd CThEF byth:
- yn gadael lleisbost sy’n bygwth camau cyfreithiol
- yn bygwth eich arestio
Gweler enghreifftiau o alwadau ffôn ffug.
Negeseuon testun
Mae CThEF yn anfon negeseuon testun at rai o’n cwsmeriaid.
Yn y neges destun, efallai y byddwn yn cynnwys cysylltiad i wybodaeth ar GOV.UK neu i sgwrs CThEF dros y we.
Rydym yn eich cynghori i beidio ag agor unrhyw gysylltiadau, nac ymateb i unrhyw negeseuon testun, sy’n honni eu bod oddi wrth CThEF, ac sy’n cynnig ad-daliad treth yn gyfnewid am fanylion personol neu ariannol.
Er mwyn helpu gyda’r frwydr yn erbyn sgamiau gwe-rwydo, anfonwch unrhyw negeseuon testun amheus i 60599 (costau rhwydwaith yn berthnasol) neu drwy e-bost: [email protected] neu [email protected] ac yna dilëwch y negeseuon testun hynny.
Negeseuon WhatsApp
Os ydych chi wedi tanysgrifio i sianel Llywodraeth y DU ar WhatsApp (yn Saesneg), byddwch yn cael diweddariadau a allai gynnwys negeseuon atgoffa achlysurol sy’n gysylltiedig â threth. Bydd y rhain yn hysbysiadau neges sengl ac ni fyddwch yn gallu ymateb.
Ni fydd CThEF yn cysylltu â chi am unrhyw reswm arall gan ddefnyddio WhatsApp.
Codau QR
Mae CThEF yn defnyddio codau QR yn ein llythyrau a’n gohebiaeth. Bydd y cod QR fel arfer yn mynd â chi i arweiniad ar GOV.UK. Byddwn yn dweud wrthych os yw’r cod QR yn mynd â chi i unrhyw le arall.
Ni fyddwch byth yn cael eich cymryd i dudalen lle mae’n rhaid i chi fewnbynnu gwybodaeth bersonol.
Pan fyddwch wedi mewngofnodi i’ch cyfrif CThEF, mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio codau QR i’ch ailgyfeirio. Er enghraifft, i fynd â chi i dudalen mewngofnodi’ch banc.
Os ydym yn defnyddio codau QR mewn cyfathrebiadau, gallwch eu gweld ar dudalen cysylltiadau dilys CThEF.
Er mwyn helpu gyda’r frwydr yn erbyn sgamiau gwe-rwydo, anfonwch unrhyw e-byst amheus sy’n cynnwys codau QR i [email protected] ac yna dilëwch nhw.
Talebau anrhegion neu dalebau talu
Ni fydd CThEF yn gofyn i chi dalu drwy ddefnyddio talebau anrhegion na thalebau talu ar unrhyw adeg.
Os ydych eisoes wedi rhannu manylion personol
Gallwch roi gwybod i Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF fod gwybodaeth bersonol wedi’i datgelu.
Os ydych wedi dioddef sgam a cholli arian, rhowch wybod am hyn i Action Fraud neu rhowch wybod i Heddlu’r Alban drwy alw 101 os ydych yn byw yn yr Alban.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 29 Hydref 2020Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 Rhagfyr 2024 + show all updates
-
The statement advising that HMRC will never ask for personal or financial information when we send text messages has been removed.
-
We have updated the 'QR codes' section of this guide, as we now use QR codes to take you to websites other than GOV.UK. If a QR code does not take you to GOV.UK, we will tell you.
-
Information about the new UK Government WhatsApp Channel, and how HMRC will use the Channel, has been added.
-
Information about how HMRC use QR codes has been updated.
-
Information about when HMRC might send you a text message has been updated.
-
We have added a reporting phone number for Police Scotland.
-
Added translation
-
Added translation
-
Information about how HMRC use QR codes has been updated.
-
Information about when HMRC might send you a text message if you call one of our helplines from a mobile phone, and what it might include has been added.
-
Updated information on what to look for first and suspicious phone calls.
-
Added information on QR codes.
-
First published.