Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE: sut y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol
Sut y bydd y Swyddfa Gartref yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i benderfynu a ddylid caniatáu’ch cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.
Yn ychwanegol at wiriad hunaniaeth, y 3 prif ffordd y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu yw:
- gwiriadau troseddoldeb a diogelwch
- os ydych chi wedi nodi’ch rhif Yswiriant Gwladol, gwiriadau amser real gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi i ystyried tystiolaeth o’ch preswyliad yn y DU (er enghraifft, cofnodion treth neu fudd-daliadau)
- fesul achos, rhannu gwybodaeth gyda sefydliadau eraill i wirio tystiolaeth yr ydych chi wedi’i nodi o fewn eich cais i amddiffyn yn erbyn twyll a defnydd ar ddogfennau ffug (er enghraifft, gwirio gyda’r brifysgol bod y dystysgrif brifysgol yr ydych chi wedi’i darparu yn ddilys)
Mae’r rhannu data hwn wedi’i gynllunio i helpu ymgeiswyr i gynnig tystiolaeth o’u statws mewn ffordd gyflym a syml gan ddefnyddio’r data sydd eisoes yn cael ei gadw gan adrannau eraill y llywodraeth.
Gallai’r Swyddfa Gartref hefyd, fesul achos, brosesu’ch gwybodaeth mewn ffyrdd eraill er mwyn bodloni ei swyddogaethau cyfreithiol a swyddogol. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft:
- os byddwch, yn y dyfodol, yn ymgeisio am Ddinasyddiaeth y DU
- os byddwn yn dod o hyd i dystiolaeth bod trosedd sylweddol wedi’i chyflawni
- os byddwn yn canfod bod trosedd fewnfudo (megis priodas ffug) wedi’i chyflawni
- er mwyn caniatáu i’r Swyddfa Gartref ymgymryd â’i dyletswyddau diogelu
Amlinellir hyn yn fanylach yn hysbysiad gwybodaeth breifat System Ffiniau, Mewnfudo a Dinasyddiaeth (BICS). Amlinella hysbysiad gwybodaeth breifat BICS hefyd sut y gallwch wneud cais am eich gwybodaeth bersonol, a sut y gallwch gwyno. Dylech hefyd fod yn ymwybodol bod y wybodaeth a amlinellir yn yr hysbysiad hwn wedi’i bwriadu i ategu at yr hysbysiad gwybodaeth breifat BICS, ac nid i’w ddisodli.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 11 Mawrth 2019Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 Ebrill 2019 + show all updates
-
Translated information added.
-
First published.