Canllawiau

Gwybodaeth ychwanegol y mae’n rhaid i chi ei chyflwyno cyn i chi wneud hawliad am ryddhad treth Ymchwil a Datblygu

Cael gwybod pa fath o wybodaeth y mae angen i chi ei hanfon at CThEF cyn i chi wneud hawliad am ryddhad Treth Gorfforaeth Ymchwil a Datblygu.

Mae’n bosibl y bydd camau eraill y mae’n rhaid i chi eu cwblhau cyn i chi gyflwyno’ch gwybodaeth ychwanegol. Gwiriwch y camau y mae angen i chi eu cymryd i hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu yn gywir.

Mae’n rhaid i chi lenwi ffurflen gwybodaeth ychwanegol a’i chyflwyno i CThEF er mwyn ategu hawliadau newydd am ryddhad treth Ymchwil a Datblygu, neu gredyd gwariant Ymchwil a Datblygu, neu’r ddau. 

Eich cyfnod cyfrifyddu  

Mae angen i chi lenwi ffurflen gwybodaeth ychwanegol ar gyfer pob cyfnod cyfrifyddu yr ydych yn gwneud hawliad ar ei gyfer.  

Os ydych yn hawlio ar gyfer cyfnod sy’n hirach na 12 mis, bydd angen i chi gyflwyno’r canlynol:  

  • ffurflen gwybodaeth ychwanegol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu cyntaf o 12 mis  
  • ffurflen gwybodaeth ychwanegol arall ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu byr dilynol  

Er enghraifft, os yw’ch cyfnod rhoi cyfrif (y cyfnod a gwmpesir gan eich cyfrifon) yn para 16 mis, bydd angen i chi lenwi 2 Ffurflen Dreth: 

  • un Ffurflen Dreth i gwmpasu’r 12 mis cyntaf 
  • yr ail Ffurflen Dreth i gwmpasu’r 4 mis sy’n weddill 

Os ydych am wneud hawliadau Ymchwil a Datblygu ar gyfer y ddau gyfnod, bydd angen i chi ddarparu ffurflenni gwybodaeth ychwanegol ar gyfer y ddau gyfnod hynny.  

Dylai pob ffurflen gwybodaeth ychwanegol gynnwys gwybodaeth sy’n berthnasol i’r cyfnod cyfrifyddu dan sylw yn unig.  

Gall cyfnod cyfrifyddu gynnwys hawliadau am ryddhad treth Ymchwil a Datblygu ac am gredyd gwariant Ymchwil a Datblygu. Os yw’r cyfnod cyfrifyddu yn cynnwys y ddau fath o hawliad, mae’r gofynion a restrir yn y 3 adran ganlynol yn berthnasol i bob hawliad ar wahân, nid i’r cyfnod cyfrifyddu yn ei gyfanrwydd:  

  • gwariant Ymchwil a Datblygu cymhwysol  
  • manylion i’w cynnwys o ran y prosiect  
  • disgrifiad o bob prosiect 

Pryd i gyflwyno 

Mae’n rhaid i’r ffurflen gwybodaeth ychwanegol gael ei chyflwyno naill ai cyn neu ar yr un diwrnod ag y byddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth y Cwmni (CT600). Os na fyddwch yn cyflwyno’r ffurflen hon, ni fydd unrhyw hawliad am Ymchwil a Datblygu neu gredyd gwariant yn cael ei dderbyn.  

Os byddwch yn anfon y ffurflen gwybodaeth ychwanegol a Ffurflen Dreth y Cwmni (CT600) ar yr un diwrnod, bydd yn rhaid i chi sicrhau eich bod yn anfon y ffurflen gwybodaeth ychwanegol yn gyntaf, cyn anfon Ffurflen Dreth y Cwmni. Os caiff y Ffurflen Dreth ei chyflwyno cyn y ffurflen gwybodaeth ychwanegol, bydd yr hawliad yn cael ei wrthod.

Os digwyddir hyn: 

  • byddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau y byddwn yn dileu’ch hawliad am ryddhad treth Ymchwil a Datblygu o’ch Ffurflen Dreth y Cwmni 
  • efallai na fyddwch yn gallu gwneud hawliad dilys am Ymchwil a Datblygu am y cyfnod cyfrifyddu hwnnw — os digwyddir hyn yn agos at y dyddiad olaf ar gyfer diwygio’r ffurflen 

Pwy all gyflwyno  

Gallwch lenwi’r ffurflen gwybodaeth ychwanegol os ydych:  

Os ydych yn asiant  

Mae’n rhaid i chi fewngofnodi i’ch cyfrif gwasanaethau asiant cyn y gallwch lenwi ffurflen gwybodaeth ychwanegol ar ran eich cleient. Dylai’r cwmni roi caniatâd i chi i lenwi’r ffurflen ar ei ran.  

Dysgwch ragor am gofrestru gyda CThEF i greu cyfrif gwasanaethau asiant

Manylion i’w cynnwys o ran y prosiect  

I lenwi’r ffurflen gwybodaeth ychwanegol, bydd angen y manylion canlynol arnoch.  

Manylion y cwmni  

Y manylion canlynol am eich cwmni:  

  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), mae’n rhaid i hwn gyfateb i’r un a ddangosir ar eich Ffurflen Dreth y Cwmni  
  • cyfeirnod TWE y cyflogwr  
  • rhif cofrestru TAW  
  • y math o fusnes, er enghraifft, eich cod dosbarthiad diwydiannol safonol (SIC) presennol 

Manylion cyswllt  

Y manylion cyswllt ar gyfer y bobl ganlynol:  

  • y prif uwch gyswllt mewnol ar gyfer Ymchwil a Datblygu yn y cwmni, sy’n gyfrifol am yr hawliad am Ymchwil a Datblygu, er enghraifft un o gyfarwyddwyr y cwmni  
  • pob asiant sy’n ymwneud â’r hawliad am Ymchwil a Datblygu — gan gynnwys unrhyw asiant sydd wedi rhoi cyngor, dadansoddi costau, helpu i baratoi asesiadau technegol, llenwi ffurflenni ar-lein, llenwi Ffurflen Dreth y Cwmni neu wedi rhoi’r wybodaeth ar gyfer y ffurflenni hynny 

Dyddiad dechrau a dyddiad dod i ben y cyfnod cyfrifyddu  

Bydd angen arnoch ddyddiad dechrau a dyddiad dod i ben y cyfnod cyfrifyddu yr ydych yn hawlio ar ei gyfer. Mae’n rhaid i’r dyddiadau gyd-fynd â’r rhai a ddangosir ar eich Ffurflen Dreth y Cwmni. 

Os ydych wedi gwneud etholiad i ddefnyddio dyddiad cyfrifyddu cymedrig, mae’n rhaid i chi ddefnyddio dyddiadau dechrau a dod i ben (yn agor tudalen Saesneg) cymedrig y cyfnod ar y ffurflen Wybodaeth Ychwanegol a Ffurflen Dreth y Cwmni am y cyfnod. Os nad yw dyddiadau dechrau a dod i ben y ddau gyflwyniad yn cyd-fynd, bydd y Ffurflen Wybodaeth Ychwanegol yn cael ei gwrthod a bydd yr hawliad rhyddhad Ymchwil a Datblygu yn Ffurflen Dreth y Cwmni yn cael ei ddileu.

Manylion i’w cynnwys o ran dwyster Ymchwil a Datblygu  

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio cyfradd uwch o gredyd treth ar gyfer y cynllun mentrau bach a chanolig os ydych yn bodloni’r amod dwyster Ymchwil a Datblygu.  

Os ydych yn bodloni’r amod hwn, bydd angen i chi roi manylion y canlynol:  

  • cyfanswm eich costau perthnasol  
  • costau Ymchwil a Datblygu perthnasol y cwmnïau cysylltiedig, a chyfanswm eu costau perthnasol  
  • gwariant Ymchwil a Datblygu cymhwysol 

Cyfanswm y costau perthnasol  

Mae angen i chi gynnwys yr holl gostau sy’n ymwneud â’ch prosiect. 

Mae hyn yn cynnwys y canlynol: 

  • costau a ystyriwyd o dan arfer cyfrifyddu a dderbynnir yn gyffredinol (GAAP) i gyfrifo elw masnach, sy’n cyfrannu at y sefyllfa elw (colled) cyn treth yn y cyfrif elw a cholled neu’r gyfriflen incwm yn eich cyfrifon GAAP  
  • os nad ydych wedi dechrau masnachu eto — unrhyw wariant cyn masnachu y byddwch yn cael rhyddhad arno o dan adran 1045 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009, darllenwch lawlyfr CThEF CIRD90200 (yn agor tudalen Saesneg)  
  • unrhyw gostau Ymchwil a Datblygu wedi’u cyfalafu y byddwch yn cael didyniad treth arnynt o dan adran 1308 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009, darllenwch lawlyfr CThEF CIRD81450 (yn agor tudalen Saesneg)  

Nid yw’n cynnwys y canlynol:  

  • unrhyw swm o amorteiddiad y mae’n rhaid i chi ei adio’n ôl yn eich cyfrifiannau treth oherwydd eich bod yn cael, neu wedi cael, didyniad o dan adran 1308  
  • costau ar daliadau neu drosglwyddiadau eraill o werth i gwmni cysylltiedig 

Cwmnïau cysylltiedig  

Mae’n rhaid i chi hefyd gynnwys unrhyw gwmnïau sy’n gysylltiedig â chi ar o leiaf un diwrnod yn ystod y cyfnod cyfrifyddu y gwneir yr hawliad amdano.  

I gael rhagor o wybodaeth am gwmnïau cysylltiedig, darllenwch lawlyfr CThEF CIRD82150 (yn agor tudalen Saesneg)

Gwariant Ymchwil a Datblygu cymhwysol  

Mae’n rhaid i chi gynnwys manylion y costau Ymchwil a Datblygu cymhwysol. Gallwch wirio pa gostau sy’n gymwys, a hynny’n yn dibynnu ar y rhyddhad yr ydych yn ei hawlio. 

Os yw’ch prosiect yn bodloni’r amodau cymhwysol ar gyfer Ymchwil a Datblygu, gallwch hawlio am y canlynol ar Ffurflen Dreth y Cwmni:  

  • rhyddhad treth fel menter bach a chanolig  
  • credyd gwariant fel cwmni mawr neu fel menter bach a chanolig  

Os ydych yn hawlio rhyddhad treth menter bach a chanolig ac yn hawlio credyd gwariant, bydd angen i chi roi manylion y costau cymhwysol ar gyfer eich hawliadau am ryddhad treth a’ch hawliadau am gredyd gwariant ar wahân. 

Mae’n rhaid i chi ateb cwestiynau’r cap TWE ar gyfer pob hawliad menter bach a chanolig sy’n ymwneud â chyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2021.  

Dim ond cwmnïau sydd â chyfnod cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023 sydd â’r opsiwn i gyflwyno:  

  • nifer y gweithwyr a ddarperir yn allanol sydd wedi bod yn rhan o brosiectau  
  • cyfeirnod TWE y cyflogwr ar gyfer pob gweithiwr a ddarperir yn allanol  

Nid yw hyn yn atal cwmnïau rhag hawlio costau ar gyfer gweithwyr a ddarperir yn allanol yn y cyfnodau cyfrifyddu a ddechreuodd cyn 1 Ebrill 2023. 

Gweithgareddau anuniongyrchol cymhwysol  

Mae’n rhain i chi gynnwys gweithgareddau sy’n ffurfio rhan o brosiect, ond nad ydynt yn cyfrannu’n uniongyrchol at ddatrys yr ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol.  

Gallwch wneud hawliad ar gyfer costau cymhwysol fel y nodir yn adran ‘Gwariant Ymchwil a Datblygu cymhwysol’ yr arweiniad hwn, ar yr amod bod y costau hyn wedi codi o ganlyniad i weithgareddau anuniongyrchol cymhwysol penodol — i gael rhagor o wybodaeth, darllenwch yr arweiniad Gwirio pa gostau Ymchwil a Datblygu y gallwch eu hawlio

Manylion i’w cynnwys o ran y prosiect  

Mae angen i chi roi manylion i ni ynghylch y prosiectau yr ydych yn hawlio ar eu cyfer yn ystod y cyfnod cyfrifyddu. Mae’r manylion y mae angen i chi eu rhoi i ni yn dibynnu ar nifer y prosiectau yr ydych yn gwneud hawliadau ar eu cyfer. 

Os ydych yn hawlio ar gyfer 1 i 3 o brosiectau  

Mae pob prosiect yn berthnasol, a bydd angen i chi ddisgrifio pob un yr ydych yn gwneud hawliad ar ei chyfer. 

Os ydych yn hawlio ar gyfer 4 i 10 o brosiectau

Mae’n rhaid i’r cwmni ddewis 3 neu fwy o’r prosiectau hyn a’u trin fel y prosiectau perthnasol. Mae’n rhaid i’r prosiectau hyn, gyda’i gilydd, gyfrif am o leiaf hanner y gwariant cymhwysol yr ydych yn gwneud hawliad ar ei gyfer. 

Os ydych yn hawlio ar gyfer mwy na 10 o brosiectau

Mae’n rhaid i’r cwmni ddewis 3 neu fwy o’r prosiectau hyn a’u trin fel y prosiectau perthnasol. Mae’n rhaid i’r prosiectau hyn, gyda’i gilydd, gyfrif am o leiaf hanner y gwariant cymhwysol yr ydych yn gwneud hawliad ar ei gyfer.

Ond pe bai’n rhaid i’r cwmni ddewis mwy na 10 prosiect i gyfrif am o leiaf hanner y gwariant cymwys, yna dylai ddewis y 10 prosiect sydd â’r gwariant cymhwysol uchaf.

Os ydych yn gwneud hawliad am ryddhad treth menter bach a chanolig ac am gredyd gwariant  

Bydd angen i chi roi manylion, ar wahân, ar gyfer y nifer berthnasol o brosiectau yn seiliedig ar y costau cymhwysol ar gyfer eich: 

  • hawliad am ryddhad treth  
  • hawliad am gredyd gwariant  

Er enghraifft, os oes gennych 8 prosiect menter bach a chanolig, a 2 brosiect credyd gwariant Ymchwil a Datblygu, yna bydd angen i chi roi’r manylion canlynol: 

  • manylion y prosiectau menter bach a chanolig sy’n cyfrif am o leiaf 50% o gyfanswm y costau cymhwysol ar gyfer rhyddhad menter bach a chanolig, gan ddisgrifio o leiaf 3 phrosiect  
  • manylion y ddau brosiect rydych yn gwneud hawliad rhyddhad credyd gwariant Ymchwil a Datblygu ar eu cyfer 

Disgrifiad o bob prosiect 

Y prif faes gwyddoniaeth neu dechnoleg  

Rhowch ddisgrifiad cryno o’r maes gwyddoniaeth neu dechnoleg y mae’r prosiect yn ymwneud ag ef.  

Bydd y derminoleg ganlynol yn eich helpu gyda’r disgrifiad:  

  • gwyddoniaeth — astudiaeth systematig o natur ac ymddygiad y bydysawd ffisegol a materol (nid yw gwaith yn y celfyddydau, y dyniaethau na’r gwyddorau cymdeithasol, gan gynnwys economeg, yn wyddoniaeth at y diben hwn)  
  • technoleg — rhoi egwyddorion neu wybodaeth wyddonol ar waith mewn ffordd ymarferol  

O 1 Ebrill 2023 ymlaen, bydd cynnydd ym maes mathemateg yn cael ei drin fel cynnydd ym maes gwyddoniaeth at y dibenion hyn, a hynny p’un ai yw’n gynnydd o ran natur ac ymddygiad y bydysawd ffisegol a materol, neu beidio.

Y lefel safonol, o ran gwyddoniaeth neu dechnoleg, yr oedd y cwmni’n bwriadu ei chynyddu  

Disgrifiwch lefel yr wybodaeth neu’r gallu a oedd eisoes yn bodoli ar yr adeg pan ddechreuodd y prosiect, sef y lefel yr oedd y cwmni’n bwriadu ei chynyddu. Er enghraifft, os mai bwriad y cwmni oedd gwneud y canlynol:  

  • gwella deunydd neu ddyfais sydd eisoes yn bodoli — disgrifiwch y nodweddion a’r galluoedd a oedd eisoes yn bodoli cyn i’r prosiect ddechrau  
  • datblygu gwybodaeth newydd mewn maes penodol o wyddoniaeth neu dechnoleg — disgrifiwch yr hyn a oedd eisoes yn hysbys cyn i’r prosiect ddechrau  

Y cynnydd yn yr wybodaeth wyddonol neu dechnolegol yr oedd y cwmni’n bwriadu’i gyflawni  

Rhowch ddisgrifiad o’r cynnydd, gan ddefnyddio’r lefel safonol o ran gwyddoniaeth neu dechnoleg, yr oedd y cwmni’n bwriadu’i gyflawni fel cymhariaeth.  

Bydd yr wybodaeth ganlynol yn eich helpu i gyda’r disgrifiad.  

Gall cynnydd mewn gwybodaeth neu allu o ran gwyddoniaeth neu dechnoleg arwain at ganlyniadau corfforol, neu gall fod yn gynnydd mewn gwybodaeth gyffredinol. Yn y naill achos neu’r llall, byddai gweithiwr proffesiynol galluog yn y maes hwnnw yn ei gydnabod fel gwelliant sylweddol.  

Gall y gwelliannau gynnwys y canlynol:  

  • creu proses, deunydd, dyfais, cynnyrch neu wasanaeth sy’n cynyddu’r wybodaeth neu’r gallu cyffredinol mewn maes gwyddoniaeth neu dechnoleg  
  • gwelliant sylweddol o ran proses, deunydd, dyfais, cynnyrch neu wasanaeth sy’n bodoli eisoes — er enghraifft, i arbed costau neu i greu llai o wastraff (mae hyn yn cyfeirio at welliannau sylweddol iawn, y tu hwnt i uwchraddio cyffredin)  
  • defnyddio gwyddoniaeth neu dechnoleg i gopïo effaith proses, deunydd, dyfais, cynnyrch neu wasanaeth presennol mewn ffordd newydd neu ffordd well  

Yr ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol a wynebwyd gan y cwmni  

Mae’n rhaid i chi gynnwys ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol yn unig — er enghraifft, os nad oedd y cwmni yn:  

  • gwybod a oedd yn bosibl creu neu wella’r cynnyrch neu’r broses  
  • gallu rhesymu sut i greu neu wella’r cynnyrch neu’r broses yn seiliedig ar yr wybodaeth a oedd ar gael ar y pryd — er enghraifft, gwnaethoch geisio adeiladu offeryn diagnostig meddygol, a hynny’n cyfuno technoleg profi anymwthiol, deallusrwydd artiffisial (AI) a chludadwyedd, ond nid ydych yn siŵr am y dull o wneud hyn  

Dylai’r disgrifiad o’r ansicrwydd a roddwyd gennych esbonio’r canlynol:  

  • yr hyn sy’n eich atal rhag cyflawni cynnydd o ran gwybodaeth wyddonol neu dechnolegol (nid yw’r broblem yn ansicrwydd os oes modd ei datrys wrth ei thrafod gyda chyfoedion)  
  • pam mae’r ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol hwn yn effeithio ar y diwydiant, ac nid ar eich cwmni chi yn unig  
  • os byddai gweithiwr proffesiynol galluog yn y maes yn ansicr o ran sut i gyflawni’r cynnydd, esboniwch pam 

Sut y gwnaeth eich prosiect geisio datrys yr ansicrwydd hwn  

Rhowch ragor o fanylion am y gweithgareddau Ymchwil a Datblygu uniongyrchol a ddefnyddir i geisio datrys yr ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol, yn ogystal â manylion am y gweithgareddau anuniongyrchol cymhwysol.  

Dylech ddisgrifio’r canlynol gan ddefnyddio manylion manwl:  

  • y problemau a wynebwyd wrth gynnal y prosiect Ymchwil a Datblygu  
  • y dulliau a gynlluniwyd, neu a ddefnyddiwyd, i ddatrys yr ansicrwydd  
  • p’un a chafodd yr ansicrwydd ei ddatrys ai peidio, gan nodi sut a pham ni chafodd yr ansicrwydd ei ddatrys (os mai dyna’r achos)  

Gall gweithgareddau sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at Ymchwil a Datblygu gynnwys y canlynol:  

  • creu neu addasu meddalwedd, deunyddiau neu offer sydd eu hangen i ddatrys yr ansicrwydd  
  • gweithgareddau cynllunio, megis cynllun manwl o sut y byddwch yn rhoi’r prosiect ar waith  
  • dylunio, profi a dadansoddi i ddatrys yr ansicrwydd gwyddonol neu dechnolegol  

Dylech gynnwys y costau cymhwysol a godwyd ar weithgareddau uniongyrchol cymhwysol ar gyfer pob prosiect. Gwiriwch yr arweiniad ynghylch pa gostau Ymchwil a Datblygu y gallwch wneud hawliad ar eu cyfer i weld rhestr o’r hyn y dylech ei gynnwys. 

Y rhyddhad treth rydych yn gwneud hawliad ar ei gyfer, a’r swm  

Rhowch wybod i ni am yr hyn yr ydych yn gwneud hawliad ar ei gyfer, a swm y costau cymhwysol sy’n berthnasol i bob prosiect.  

Os hoffech anfon rhagor o wybodaeth atom  

Ar ben hynny, gallwch anfon manylion ategol pellach atom am eich prosiectau Ymchwil a Datblygu mewn adroddiad ar wahân. Gall yr adroddiad hwn gynnwys y canlynol:  

  • methodoleg yr hawliad  
  • y defnydd o samplu  
  • manylion y gweithwyr proffesiynol galluog  

Gallwch gyflwyno’r adroddiad Ymchwil a Datblygu ar wahân gan wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:  

Cwsmeriaid sy’n fusnesau mawr  

I gael gwybodaeth am sut mae CThEF yn delio â hawliadau credyd gwariant ar gyfer cwsmeriaid sy’n fusnesau mawr, darllenwch lawlyfr CThEF CIRD80370 (yn agor tudalen Saesneg).  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r ffurflen gwybodaeth ychwanegol, gallwch gysylltu â’r gyfarwyddiaeth Busnesau Mawr (yn agor tudalen Saesneg). Dylech ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost perthnasol i gysylltu â ni, gan sicrhau bod eich rheolwr cydymffurfiad cwsmeriaid (CCM) wedi’i gopïo i’r e-bost hefyd.  

Cyn i chi ddechrau 

Os ydych:  

  • yn gynrychiolydd o’r cwmni — bydd angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair Porth y Llywodraeth a ddefnyddioch wrth gofrestru ar gyfer Treth Gorfforaeth. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID),  gallwch greu un pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf  
  • yn asiant — bydd angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair Porth y Llywodraeth a ddefnyddioch wrth gofrestru am gyfrif gwasanaethau asiant. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf  

Ni fyddwch yn gallu cael at y ffurflen unwaith y byddwch wedi ei chyflwyno, felly cadwch gopi cyn gwneud hynny.  

Os nad oes gennych gyfrif Porth y Llywodraeth, gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru ar gyfer un mewn da bryd i gael y manylion sydd eu hangen arnoch i gyflwyno’ch ffurflen gwybodaeth ychwanegol.  

Mae angen i bob cwmni sydd yn y grŵp gael ei gyfrif Porth y Llywodraeth ei hun er mwyn cyflwyno ffurflen ychwanegol. Ni allwch ddefnyddio cyfrif ‘Rheolwr Treth Grŵp’.  

Cyflwyno’r ffurflen 

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf yn ystod adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).  

Dechrau Nawr

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud nesaf  

Byddwch yn cael e-bost i gadarnhau ein bod wedi cael y ffurflen. Bydd yr e-bost hwn yn cynnwys cyfeirnod.  

Cadwch nodyn o’r cyfeirnod hwn er mwyn:  

  • i chi allu trafod eich ffurflen gwybodaeth ychwanegol gyda CThEF  
  • i CThEF allu gwirio eich bod wedi cyflwyno eich ffurflen gwybodaeth ychwanegol, os oes angen  

Yna, gallwch wneud eich hawliad am ryddhad treth Ymchwil a Datblygu.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 Rhagfyr 2024 + show all updates
  1. The 'Project details you should include' and 'Accounting period start and end date' sections have been updated.

  2. The service to submit your form has been updated to allow customers to provide additional information for R&D mergers, enhanced R&D intensive support and to allow companies to register in Northern Ireland.

  3. Added Welsh translation.

  4. A new section on Research and Development (R&D) intensity details has been added.

  5. Agents submitting additional information forms need an agent services account. They do not need to be authorised as the company’s Corporation Tax agent through Online Agent Authorisation to provide it.

  6. Who needs to submit an additional information form and what information needs to be submitted for each period has been clarified. Guidance for agents making authorised claims for companies has been added.

  7. The mandatory submission date has been changed from '1 August 2023' to '8 August 2023'. The 'Qualifying expenditure details' for claiming expenditure credit on subcontractor costs has been updated to clarify that only some of the costs can be claimed for. The 'Qualifying expenditure details' for claiming expenditure credit and SME tax relief on consumable items has been amended to remove utilities and include water, fuel and power. The list of 'qualifying indirect activities' has been updated to clarify which activities form part of a project. The 'Project details' for 11 to 100 (more) projects has been changed to clarify that you will need to describe the 10 projects with the most qualifying expenditure, and to clarify the description of the appreciable improvements.

  8. Added translation

Print this page