Credyd gwariant Ymchwil a Datblygu ar gyfer cwmnïau mawr a mentrau bach a chanolig
Dysgwch a allwch hawlio credyd treth Ymchwil a Datblygu ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau cyn 1 Ebrill 2024.
Mae’n bosibl y bydd camau eraill y mae’n rhaid i chi eu cwblhau cyn gweithio allan pa ryddhad y gallwch ei hawlio. Gwiriwch y camau y mae angen i chi eu cymryd i hawlio rhyddhad treth Ymchwil a Datblygu’n gywir.
Beth yw credyd gwariant Ymchwil a Datblygu
Gall rhai cwmnïau sydd â chyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau cyn 1 Ebrill 2024 ddefnyddio’r cynllun Credyd Gwariant Ymchwil a Datblygu i hawlio credyd treth er mwyn cael rhyddhad ar gostau Ymchwil a Datblygu.
Gellir defnyddio’r cynllun hwn i dalu’r canlynol:
-
Treth Gorfforaeth eich cwmni, neu Dreth Gorfforaeth cwmnïau eraill sy’n rhan o grŵp
-
rhwymedigaethau treth eraill, megis TAW
Os oes unrhyw gredyd yn weddill ar ôl talu eich rhwymedigaethau treth, gall y credyd hwn gael ei dalu i’ch cwmni.
Os yw’ch credyd treth yn is na’r cyfanswm a wariwyd ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol a TWE, caiff y swm dros ben ei gario ymlaen i gyfnodau yn y dyfodol fel credyd gwariant.
Os gwnaeth eich cyfnod cyfrifyddu ddechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024, mae’n rhai i chi hawlio o dan y cynllun cyfun Ymchwil a Datblygu.
Pwy all hawlio
Dylech ddefnyddio’r cynllun Credyd Gwariant Ymchwil a Datblygu os gwnaeth eich cyfnod cyfrifyddu ddechrau cyn 1 Ebrill 2024, a bod y canlynol yn wir:
-
rydych yn gwmni mawr
-
rydych yn fenter bach a chanolig, ac rydych yn hawlio ar gyfer gwaith a gafodd ei is-gontractio i chi
-
rydych yn fenter bach a chanolig, ac rydych wedi cael cymorth gwladwriaethol hysbysedig ar gyfer y prosiect
-
rydych yn fenter bach a chanolig, ac rydych yn hawlio ar gyfer costau a gafodd eu hariannu mewn ffordd arall, megis grant
Os nad ydych yn bodloni’r amodau hyn, mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud hawliad gan ddefnyddio’r cynllun rhyddhad treth ar gyfer mentrau bach a chanolig.
Er mwyn gwneud hawliad, mae’n rhaid bod y canlynol yn wir:
-
mae’ch cwmni yn masnachu
-
mae’ch cwmni yn agored i Dreth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg)
-
mae gan eich cwmni brosiect sy’n bodloni’r diffiniad o Ymchwil a Datblygu
-
mae gan eich cwmni gostau sy’n gymwys ar gyfer rhyddhad
Cyfraddau credyd gwariant
Caiff y credyd treth ei gyfrifo fel canran o’ch costau Ymchwil a Datblygu cymhwysol. Y gyfradd ar gostau:
-
o 1 Ebrill 2015 hyd at a chan gynnwys 31 Rhagfyr 2017 yw 11%
-
o 1 Ionawr 2018 hyd at a chan gynnwys 31 Mawrth 2020 yw 12%
-
o 1 Ebrill 2020 hyd at a chan gynnwys 31 Mawrth 2023 yw 13%
-
o 1 Ebrill 2023 hyd at a chan gynnwys 31 Mawrth 2024 yw 20%
Yr hyn y mae angen i chi ei wneud nesaf
Os ydych yn fenter bach a chanolig ac yn gymwys i hawlio credyd gwariant Ymchwil a Datblygu, mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am sicrwydd ymlaen llaw er mwyn cadarnhau y bydd eich hawliad yn cael ei dderbyn.
Mae’n rhaid i bob cwmni a menter wirio a oes angen iddynt roi gwybod i CThEF eu bod yn bwriadu hawlio’r rhyddhad hwn.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 1 Ionawr 2007Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 Tachwedd 2024 + show all updates
-
Added translation
-
The 'Staff costs' section has been updated to include the treatment of bonuses and clarify that in some specific circumstances, you can claim for an element of administrative or support staff if they relate to an R&D project. Additional information has been added in step 2 of 'How to use the expenditure credit'. The information on when you must submit an additional information form has been updated from '1 August 2023' to '8 August 2023', and the text regarding voluntary submission of the additional information form before the mandatory date has been removed in step 2 of section 'Before you claim'.
-
More information has been added about R&D expenditure credit (RDEC). How to calculate the expenditure credit, how to claim and how to use the expenditure credit have been updated. New sections have been added about expenditure credit rates, how to check what expenditure qualifies for expenditure credit, and what you need to do before you claim the expenditure credit for accounting periods beginning on or after 1 April 2023 and for claims from 1 August 2023.
-
The 'Overview' section has been updated with information about when R&D expenditure credit can be claimed and to clarify what tax liabilities can be discharged with the credit.
-
The email address in the 'When you cannot use the online service' section has been updated.
-
The Research and Development Expenditure Credit rate changed from 12% to 13% on expenditure incurred on or after 1 April 2020.
-
The Research and Development Expenditure Credit rate changed from 12% to 13%.
-
Page has been updated with information about your expenditure when working out Research and Development Expenditure Credit
-
You can now send supporting information for your RDEC claim using an online service - a link to the service and details of what you'll need has been added to this guidance.
-
The Research and Development Expenditure Credit changed from 11% to 12% on 1 January 2018.
-
First published.