Ar ôl i chi wneud eich hawliad

Fe anfonir eich hawliad, gan gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad, at yr unigolyn neu’r busnes y mae arnynt arian i chi (y ‘diffynnydd’).

Mae’n rhaid iddynt ymateb i’ch hawliad. Fe anfonir llythyr neu neges e-bost atoch yn dweud wrthych erbyn pryd y bydd angen iddynt ymateb.

Beth i’w wneud os byddwch yn cael eich talu

Dywedwch wrth y diffynnydd pan fyddwch wedi cael eu taliad.

Bydd sut y dylech wneud hyn yn dibynnu ar sut y gwnaethoch yr hawliad.

Os gwnaethoch hawliad ar-lein

Gallwch ddiweddaru eich hawliad ar-lein, dros y ffôn neu drwy anfon e-bost. Bydd y manylion cyswllt perthnasol yn dibynnu ar faint o arian rydych yn ei hawlio.

Os gwnaethoch eich hawliad cyn 8 Hydref 2024 a’i fod yn hawliad am rhwng £10,000 a £25,000, yna gallwch ei ddiweddaru ar-lein gan ddefnyddio’r gwasanaeth Hawliadau am Arian Ar-lein neu drwy ffonio’r gwasanaeth Hawliadau am Arian Ar-lein.

Os yw eich hawliad am £25,000 neu lai, gallwch ei ddiweddaru:

Hawliadau am Arian yn y Llys Sifil
Rhif ffôn: 0300 303 5174
Dydd Llun i ddydd Iau 9am - 5pm, dydd Gwener 9am - 4.30pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Os yw eich hawliad am rhwng £25,000 a £100,000, gallwch ei ddiweddaru:

Gwasanaeth Hawliadau am Arian Ar-lein
[email protected]
Rhif ffôn: 0300 303 5174
Dydd Llun i ddydd Iau 9am - 5pm, dydd Gwener 9am - 4.30pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Os gwnaethoch ddefnyddio ffurflen hawlio bapur

Cysylltwch â’r llys ble wnaethoch anfon eich hawliad.

Os na chewch ymateb neu os bydd y diffynnydd yn gwrthod talu’r hyn sy’n ddyledus ganddynt

Gallwch ofyn i’r llys orchymyn bod y diffynnydd yn talu. Bydd angen i chi:

Os ydych yn anghytuno â’r ymateb

Efallai y bydd rhaid i chi fynd i wrandawiad llys:

  • os bydd y diffynnydd yn dweud nad oes arnynt arian i chi
  • maent yn anghytuno â’r swm rydych wedi’i hawlio
  • nid ydych yn cytuno â’r ffordd maent wedi cynnig eich ad-dalu

Efallai y bydd y llys yn anfon holiadur atoch yn gofyn am fwy o wybodaeth am yr achos.

Llenwch yr holiadur a’i ddychwelyd i’r llys. Bydd rhaid i chi dalu ffi llys ychwanegol.

Cyfryngu

Efallai y byddwch yn cael cynnig cyfryngu ar ôl i chi wneud hawliad neu y dywedir wrthych bod rhaid i chi fynychu cyfryngu. Yn aml, mae hyn yn gyflymach na mynd i’r llys.