Gwneud hawliad i’r llys am arian
Gwneud hawliad
Gallwch wneud eich hawliad ar-lein, oni bai:
- nid ydych yn gwybod faint o arian rydych eisiau ei hawlio
- mae eich hawliad am fwy na £25,000 ac rydych eisiau help i dalu ffi’r llys
- mae eich hawliad am £100,000 neu drosodd
Os na allwch wneud hawliad ar-lein, gwnewch hawliad drwy’r post.
Ni allwch wneud hawliad os dywedir wrthych bod rhywun wedi’i amddiffyn dros dro rhag credydwyr drwy’r cynllun ‘Lle i Anadlu’. Darllenwch fwy am beth i’w wneud pan fydd rhywun yn defnyddio’r cynllun ‘Lle i Anadlu’.
Efallai y bydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol os yw eich hawliad yn un cymhleth.
Gwneud hawliad ar-lein
Fe ofynnir i chi am enw, cyfeiriad a chyfeiriad e-bost yr unigolyn rydych yn gwneud hawliad yn ei erbyn.
Byddwch hefyd angen naill ai:
- gerdyn debyd neu gredyd i dalu ffi’r llys
- eich cyfeirnod ‘help i dalu ffioedd’ os ydych eisoes wedi gwneud cais am help i dalu ffioedd ar-lein
Os ydych dal angen gwneud cais am help i dalu ffioedd, gallwch wneud hyn tra byddwch yn gwneud eich hawliad am arian ar-lein.
Os ydych angen cymorth i wneud cais ar-lein
Mae pwy y dylech gysylltu â hwy yn dibynnu ar y math o gymorth rydych ei angen.
Os ydych yn cael problemau technegol neu os ydych angen cyfarwyddyd ar sut i wneud hawliad
Bydd y manylion cyswllt perthnasol yn dibynnu ar faint o arian rydych yn ei hawlio.
Os ydych angen cymorth i hawlio £25,000 neu lai, cysylltwch â’r Gwasanaeth Hawliadau am Arian yn y Llys Sifil.
Hawliadau am Arian yn y Llys Sifil
Rhif ffôn: 0300 303 5174
Dydd Llun i ddydd Iau 9am - 5pm, dydd Gwener 9am - 4.30pm
Gwybodaeth am gostau galwadau
Os ydych angen cymorth i hawlio rhwng £25,000 a £100,000, cysylltwch â’r Gwasanaeth Hawliadau am Arian Ar-lein.
Gwasanaeth Hawliadau am Arian Ar-lein
[email protected]
Rhif ffôn: 0300 303 5174
Dydd Llun i ddydd Iau 9am - 5pm, dydd Gwener 9am - 4.30pm
Gwybodaeth am gostau galwadau
Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, neu nid ydych yn teimlo’n hyderus yn defnyddio’r we
We Are Group
[email protected]
Rhif ffôn: 03300 160 051
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Ar gau ar wyliau banc
Tecstiwch FORM i 60777 a bydd rhywun yn eich ffonio’n ôl
Gwybodaeth am gostau galwadau
Gwneud hawliad drwy’r post
I wneud hawliad drwy’r post, lawrlwythwch a llenwch ffurflen hawlio bapur N1.
Mae’r ffurflen hawlio bapur N1 hefyd ar gael yn Saesneg.
Anfonwch y ffurflen bapur i’r Ganolfan Busnes Sifil Cenedlaethol gyda siec neu archeb bost ar gyfer eich ffi llys. Os ydych yn gwneud cais am help i dalu ffioedd anfonwch y ffurflen bapur gyda naill ai:
- y cyfeirnod ‘help i dalu ffioedd’ y byddwch yn ei gael pan fyddwch yn gwneud cais am help ar-lein
- eich ffurflen gais ‘help i dalu ffioedd’ wedi’i llenwi, os ydych yn gwneud cais am help drwy’r post
Y Ganolfan Busnes Sifil Cenedlaethol/Civil National Business Centre
St Katharine’s House
21 - 27 St Katharine’s Street
Northampton
NN1 2LH
Help i wneud cais drwy’r post
Cysylltwch â’r Ganolfan Busnes Sifil Cenedlaethol os ydych angen help i wneud hawliad drwy’r post. Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd, gallwch ofyn am addasiad rhesymol.
Y Ganolfan Busnes Sifil Cenedlaethol
Rhif ffôn ar gyfer siaradwyr Cymraeg: 0300 303 5174
Dydd Llun i ddydd Iau 9am - 5pm, dydd Gwener 9am - 4.30pm
Rhif ffôn ar gyfer siaradwyr Saesneg: 0300 123 1372
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Gwybodaeth am gostau galwadau
Gallwch hefyd wneud cais am addasiad rhesymol os byddwch yn gwneud cais drwy’r post drwy anfon e-bost i:
Dychwelyd i hawliad presennol
Os yw’ch hawliad ar-lein am £25,000 neu lai, gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif i weld diweddariadau, rheoli hawliad neu wneud hawliad newydd.