Gwneud hawliad i’r llys am arian
Datrys eich hawliad drwy gyfryngu
Cyfryngu yw pan fydd unigolyn proffesiynol diduedd (y cyfryngwr) yn helpu’r ddwy ochr i ddod i gytundeb. Mae’n gyfrinachol a gan amlaf bydd yn gyflymach ac yn rhatach na mynd i’r llys.
Os ydych yn gwneud hawliad am £10,000 neu lai ac mae’r diffynnydd yn ei wrthwynebu, yna fe ddywedir wrthych bod rhaid i chi fynychu cyfryngu. Bydd y llys yn trefnu’r cyfryngu hwn. Mae’n wasanaeth rhad ac am ddim.
Os ydych yn gwneud hawliad am fwy na £10,000:
- efallai y bydd y llys yn cynnig apwyntiad cyfryngu i chi – bydd y llys yn trefnu hwn
- gallwch drefnu apwyntiad cyfryngu annibynnol eich hun, os na fyddwch yn cael cynnig apwyntiad cyfryngu
Cyfryngu sydd wedi’i drefnu gan y llys
Bydd cyfryngwr o Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) yn siarad â chi ar wahân dros y ffôn i’ch helpu i ymchwilio i opsiynau, trafod a chytuno ar setliad. Bydd yr apwyntiad yn para hyd at un awr.
Gallwch ddod â rhywun gyda chi i’r apwyntiad cyfyngu. Er enghraifft, ffrind rydych yn ymddiried ynddynt, perthynas neu gyfreithiwr.
Os ydych wedi cael cynnig apwyntiad cyfryngu, yna bydd angen i’r ddwy ochr gytuno iddo. Os bydd y ddwy ochr yn cytuno, fe gewch ddyddiad ac amser ar gyfer eich apwyntiad dros y ffôn.
Os dywedwyd wrthych bod rhaid i chi fynychu apwyntiad cyfryngu, fe roddir dyddiad ac amser i chi ar gyfer eich apwyntiad dros y ffôn.
Cysylltwch â’r gwasanaeth cyfryngu hawliadau bychain cyn eich apwyntiad:
- os oes gennych anabledd corfforol, meddyliol neu anabledd dysgu, neu gyflwr iechyd hirdymor sy’n golygu y byddwch angen cymorth yn ystod eich apwyntiad cyfryngu
- os ydych yn agored i niwed (er enghraifft, rydych yn pryderu am eich diogelwch)
- mae gennych gwestiynau eraill am eich hawliad neu’ch apwyntiad
Dylech nodi eich rhif hawliad pan fyddwch yn cysylltu â’r gwasanaeth cyfryngu hawliadau bychain, os oes gennych un.
Gwasanaeth cyfryngu hawliadau bychain
[email protected]
Rhif ffôn: 0300 123 4593
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Os na fyddwch yn mynychu eich apwyntiad cyfryngu
Os na fyddwch yn mynychu eich apwyntiad cyfryngu, yna fel arfer bydd angen i chi fynychu gwrandawiad llys.
Gallwch barhau i geisio setlo’r achos y tu allan i’r llys gyda’r ochr arall hyd at ddyddiad y gwrandawiad (er enghraifft, drwy gyfryngu annibynnol). Os gallwch setlo’r achos y tu allan i’r llys, ni fydd angen i chi fynychu’r gwrandawiad llys.
Os dywedwyd wrthych bod rhaid i chi fynychu apwyntiad cyfryngu, gall y barnwr eich cosbi os na fyddwch yn mynychu neu’n gwneud ymdrech i ddod i gytundeb. Gall sancsiynau (cosbau) gynnwys dileu eich achos neu eich gorfodi i dalu holl gostau’r llys hyd yn oed os byddwch yn ennill.
Os byddwch yn dweud wrth y llys pam na wnaethoch fynychu eich apwyntiad cyfryngu, bydd y barnwr yn cymryd eich rhesymau i ystyriaeth wrth benderfynu ar eich sancsiynau. Gallwch ddweud wrth y llys pam na wnaethoch fynychu:
- yn eich cyfrif Hawliadau am Arian ar-lein, os oes gennych un
- yn eich gwrandawiad llys
Os ydych eisiau i’ch rhesymau dros beidio â mynychu eich apwyntiad gael eu cadw’n breifat, cysylltwch â’r llys lle cynhelir eich gwrandawiad. Efallai y dywedir wrthych i lenwi ffurflen N244 i ofyn i’r wybodaeth gael ei chadw’n breifat.
Cyfryngu annibynnol
Gallwch gael sesiynau cyfryngu gan gyfryngwr annibynnol ar gyfer hawliad am unrhyw swm. Rhaid talu ffi benodol am y gwasanaeth hwn.
Os yw eich hawliad am £10,000 neu lai, bydd rhaid i chi fynychu apwyntiad cyfryngu a drefnwyd gan y llys.
Os byddwch yn dod i gytundeb
Byddwch yn gwneud cytundeb llafar yn yr apwyntiad cyfryngu. Mae’r cytundeb hwn yn rhwymol gyfreithiol, sy’n golygu bod rhaid i chi gydymffurfio ag o. Byddwch yn cael gwybod telerau’r cytundeb mewn dogfen - gelwir y ddogfen hon yn gytundeb setlo.
Os bydd y naill ochr neu’r llall yn torri telerau’r cytundeb, yna gall yr ochr arall fynd i’r llys i ofyn am ddyfarniad neu wrandawiad.
Os na fyddwch yn dod i gytundeb
Bydd rhaid i chi fynychu gwrandawiad llys.
Ni allwch grybwyll beth ddigwyddodd yn ystod yr apwyntiad cyfryngu yn y llys.
Ni fydd rhaid i chi aros yn hirach am wrandawiad llys os byddwch yn mynychu apwyntiad cyfryngu yn gyntaf.