Gwneud hawliad i’r llys am arian
Beth fydd yn digwydd yn y gwrandawiad
Os cynhelir gwrandawiad, gallwch:
- gynrychioli eich hun
- talu i fargyfreithiwr neu gyfreithiwr eich cynrychioli
- gofyn i rywun eich cynghori yn y llys - nid oes rhaid iddynt fod yn gyfreithiwr
- gofyn i rywun siarad ar eich rhan - efallai y bydd angen i chi gael caniatâd y llys
Gellir cynnal eich gwrandawiad yn ystafell y barnwr neu mewn ystafell llys mewn llys sirol os yw eich hawliad am lai na £10,000. Efallai y cynhelir gwrandawiad mwy ffurfiol os ydych yn hawlio mwy o arian.
Ar ôl y gwrandawiad
Byddwch yn cael y penderfyniad ar ddiwrnod y gwrandawiad. Bydd y llys hefyd yn anfon copi o’r penderfyniad atoch yn y post.
Os byddwch yn ennill eich achos, bydd y llys yn gorchymyn bod yr unigolyn neu’r busnes y mae arnynt arian i chi (y ‘dyledwr) yn eich talu. Mae yna ffyrdd y gall y llys gasglu eich taliad os byddant yn anwybyddu’r gorchymyn llys.
Apelio yn erbyn y penderfyniad
Gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad os ydych yn meddwl bod y barnwr wedi gwneud camgymeriad yn ystod y gwrandawiad. Rhaid i chi wneud hyn o fewn 21 diwrnod i chi gael y penderfyniad.
Darllenwch fwy am pa lys neu dribiwnlys y dylech apelio iddo.
Cysylltwch â Cyngor ar Bopeth i gael cyngor am ddim ar apelio.