Gwneud hawliad i’r llys am arian
Ffioedd llys
Mae’n rhaid i chi dalu ffi llys pan fyddwch yn gwneud eich hawliad.
Os ydych yn gwybod swm yr hawliad
Mae ffi’r llys wedi’i seilio ar y swm rydych yn ei hawlio, ynghyd â llog.
Swm yr hawliad | Ffi |
---|---|
Hyd at £300 | £35 |
£300.01 i £500 | £50 |
£500.01 i £1,000 | £70 |
£1,000.01 i £1,500 | £80 |
£1,500.01 i £3,000 | £115 |
£3,000.01 i £5,000 | £205 |
£5,000.01 i £10,000 | £455 |
£10,000.01 i £200,000 | 5% o’r hawliad |
Mwy na £200,000 | £10,000 |
I gyfrifo 5% o werth yr hawliad, lluoswch y swm rydych yn ei hawlio gyda 0.05. Os oes angen, talgrynnwch y cyfanswm i’r 1c agosaf.
Bydd y ffi yn cael ei chyfrifo i chi os byddwch yn gwneud eich hawliad ar-lein.
Os nad ydych yn gwybod swm yr hawliad
Defnyddiwch y ffurflen hawlio bapur os nad ydych yn gwybod yr union swm - ni allwch wneud hawliad ar-lein.
Bydd angen i chi amcangyfrif y swm rydych yn ei hawlio a thalu’r ffi ar gyfer y swm hwnnw.
Er enghraifft, os ydych chi’n amcangyfrif eich bod yn hawlio rhwng £3,000.01 a £5,000, byddai rhaid i chi dalu £205.
Os byddwch yn gadael y blwch ‘swm a hawlir’ yn wag, yna bydd y ffi yn £10,000.
Help i dalu’r ffi
Efallai y gallwch gael help i dalu ffioedd os ydych ar incwm isel neu’n cael budd-daliadau penodol. Darllenwch fwy am pwy all wneud cais am help i dalu ffioedd.
Gallwch wneud cais am help i dalu ffioedd ar-lein neu drwy’r post
Gwneud cais am help ar-lein
Gwnewch gais am help i dalu ffioedd ar-lein cyn i chi wneud hawliad llys. Fe gewch gyfeirnod ‘help i dalu ffioedd’ - byddwch ei angen pan fyddwch yn gwneud eich hawliad i’r llys.
Gwneud cais am help drwy’r post
Os byddwch yn gwneud cais am help i dalu ffioedd drwy’r post, yna bydd angen i chi wneud eich hawliad llys drwy’r post hefyd. Gwnewch y ddau gais ar yr un pryd.
-
Llenwch ffurflen EX160 i gael help i dalu ffioedd.
-
Llenwch ffurflen N1 i wneud hawliad i’r llys am arian.
-
Dychwelwch y ddwy ffurflen i’r Ganolfan Busnes Sifil Cenedlaethol.
Canolfan Busnes Sifil Cenedlaethol
St Katharine’s House
21-27 St Katharine’s Street
Northampton
NN1 2LH
Talu ffi’r llys
Talwch gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd os ydych yn gwneud hawliad ar-lein.
Os byddwch yn defnyddio’r ffurflen gais bapur, talwch gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd drwy anfon llythyr gyda’ch ffurflen yn gofyn am gael talu â cherdyn. Dylech gynnwys eich rhif ffôn ac amser cyfleus i’r llys eich ffonio i gymryd y taliad.
Gallwch hefyd dalu gydag archeb bost neu siec (yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF’) os byddwch yn defnyddio’r ffurflen hawlio bapur.
Efallai y bydd rhaid i chi dalu rhagor o ffioedd yn ddiweddarach - er enghraifft, os oes gwrandawiad llys neu os ydych yn gwneud cais i ddyfarniad gael ei orfodi.
Efallai y gallwch hawlio’r ffioedd yn ôl os byddwch yn ennill yr achos.