Amdanom ni
Rydym yn cofrestru perchnogaeth tir ac eiddo yng Nghymru a Lloegr.
Mae Cofrestrfa Tir EF yn diogelu perchnogaeth tir ac eiddo sy’n werth £8 triliwn, gan alluogi gwerth dros £1 triliwn o fenthyciadau personol a masnachol i gael eu diogelu yn erbyn eiddo ledled Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn cynnwys mwy na 26.5 miliwn o deitlau yn dangos tystiolaeth perchnogaeth mwy nag 89% o’r ehangdir yng Nghymru a Lloegr.
Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n prynu neu’n gwerthu tir neu eiddo, neu sy’n cymryd morgais, wneud cais inni gofrestru:
- tir neu eiddo digofrestredig
- unrhyw berchennog newydd tir neu eiddo cofrestredig
- budd sy’n effeithio ar dir neu eiddo cofrestredig, megis morgais, prydles neu hawl tramwy
Wrth ystyried pob cais, rydym yn defnyddio’r gyfraith i benderfynu a ddylid cofrestru’r cais a sut i wneud hynny.
Pan fydd tir neu eiddo wedi ei gofnodi yn y gofrestr, rydym yn cofnodi unrhyw newid perchnogaeth, morgeisi neu brydlesi sy’n effeithio arno. Fel rheol, bydd unrhyw un sy’n dioddef colled o ganlyniad i wall neu hepgoriad yn y gofrestr, neu oherwydd bod angen cywiro’r gofrestr yn cael ei ddigolledi.
Rydym wedi ymrwymo i gyflawni ein busnes statudol a masnachol mewn ffordd deg, agored a gonest. Mae gennym bolisïau a gweithdrefnau i atal llwgrwobrwyo.
Darllenwch am ein safonau gwasanaeth
Pwy ydym ni
Rydym yn adran anweinidogol o’r llywodraeth a grëwyd ym 1862.
Rydym yn gweithio mewn 14 lleoliad.
Darllenwch ragor am ein pobl a gweithio i Gofrestrfa Tir EF.
Ein cyfrifoldebau
Yng Nghymru a Lloegr ein cyfrifoldebau yw:
- darparu cofnod dibynadwy o wybodaeth am berchnogaeth a buddion sy’n effeithio ar dir ac eiddo
- darparu teitl tir i berchnogion, wedi ei warantu gan y llywodraeth
- darparu cynllun teitl sy’n dangos terfynau cyffredinol
Nid ydym yn rhoi cyngor cyfreithiol ar union leoliadau terfynau a chyfrifoldebau.
Ein gweledigaeth, diben a gwerthoedd
Ein gweledigaeth yw: “Marchnad eiddo o’r radd flaenaf fel rhan o economi ffyniannus a dyfodol cynaliadwy.”
Ein diben yw: “Rydym yn gwarchod perchnogaeth eich tir ac yn darparu gwasanaethau a data sy’n sail i farchnad eiddo effeithlon a gwybodus.”
Ein gwerthoedd yw:
- rydym yn meddu ar unplygrwydd
- rydym yn ysgogi arloesedd
- rydym yn broffesiynol
- rydym yn rhoi sicrwydd
Darllenwch Strategy 2022+ i ddeall ein hymrwymiad i chi a’r hyn sydd ei angen oddi wrthych i’n helpu i gyflawni’n cenhadaeth.
Ein blaenoriaethau ar gyfer 2022 i 2025
Mae ein Cynllun busnes 2022 i 2025 yn nodi ein cynlluniau ar gyfer y 3 blynedd i ddod.
Ein diwylliant
Yng Nghofrestrfa Tir EF:
- mae gennym dreftadaeth gyfoethog a hanes rydym yn falch ohono – ers dros 160 o flynyddoedd rydym wedi diogelu perchnogaeth eiddo ac wedi cefnogi’r economi modern
- mae ein pobl yn bwysig – ein nod yw cael ein hadnabod fel cyflogwr mwyaf cynhwysol y llywodraeth, gan sicrhau cyfle teg a chyfartal i bawb
- rydym yn agored, yn onest ac yn trin pawb â pharch – rydym yn ymddiried yn ein gilydd ac yn dathlu ein pobl oherwydd ein bod yn falch o bwy ydynt
- mae gennym ymdeimlad o berthyn ar y cyd ac rydym yn helpu ein gilydd – rydym yn cysylltu â’n gilydd i deimlo ein bod yn cael ein cefnogi, ein bod yn gyfforddus ac yn cael ein gwerthfawrogi
- mae llais pawb yn bwysig – rydym yn annog herio â pharch ac yn gwerthfawrogi pob barn a chyfraniad
- rydym yn canolbwyntio ar fod yn fedrus iawn a gwybodus – rydym wedi ein grymuso, yn atebol ac yn gyfrifol am ein gwaith ein hunain
- rydym yn darparu gwasanaeth gwych i’n cwsmeriaid – ein nod yw rhagoriaeth, gan gydbwyso effeithlonrwydd a chynhyrchiant gydag ansawdd a chywirdeb
- rydym yn creu hyder trwy fod yn wydn ac ymatebol ond tawel a hamddenol hefyd – rydym yn hyblyg, yn gallu addasu’n rhwydd a gweithio’n gyflym
- rydym yn annog ein pobl i fod yn arloesol a gwella’r hyn a wnawn a’r ffordd a wneir hyn yn barhaus – rydym yn gwneud mynd i’r afael â heriau yn hwyl ac yn gyffrous trwy dimoedd cydweithredol, technoleg newydd a ffyrdd newydd o weithio
- mae ein harweinwyr yn gefnogol – rydym yn canolbwyntio ar hyfforddi a datblygu pobl i gyflawni eu gorau gyda hyder – mae arweinwyr cadarnhaol ac egnïol yn cynnwys eraill er mwyn cyflawni canlyniadau gwell a’n helpu i dyfu’n gryfach
Gwybodaeth gorfforaethol
Cael mynediad at ein gwybodaeth
- Cydraddoldeb ac amrywiaeth
- Ein llywodraethiant
- Gweithdrefn gwyno
- Polisi dogfennau hygyrch
- Ymchwil yn Cofrestrfa Tir EF
- Ymholiadau gan y cyfryngau
Swyddi a chontractau
Darllenwch am y mathau o wybodaeth rydyn ni'n ei chyhoeddi'n rheolaidd yn ein Cynllun cyhoeddi. Dysgwch am ein hymrwymiad i Cynllun iaith Gymraeg. Mae ein Siarter gwybodaeth bersonol yn esbonio sut rydyn ni'n ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol. Darllenwch ein polisi ar Defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol. Dysgu Am ein gwasanaethau.